Rhys Priestland
Bydd y Sgarlets yn teithio i Gaeredin heno er mwyn parháu â’u hymgyrch i orffen ym mhedwar uchaf y RaboDirect Pro 12.
Mae dau o sêr Camp Lawn Cymru – George North a Rhys Priestland – yn y tîm i chwarae Caeredin heno yn stadiwm Murrayfield, yn ogystal â’r bachwr Matthew Rees a’r canolwr Jonathan Davies.
Mae’r Sgarlets ar hyn o bryd yn y chweched safle, pwynt yn unig tu allan pedwar uchaf, ac maen nhw wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn y gynghrair.
Dywedodd prif hyfforddwr y Sgarlets, Nigel Davies, ei bod hi’n “gêm fawr iawn” i’r rhanbarth.
“Ry’n ni’n llawn cyffro am yr hyn sy’n ein hwynebu ni yn y gynghrair a ry’n ni’n benderfynol o beidio a gadael i’r cyfle ddianc,” meddai.
Mae prop y Sgarlets, Rhys Thomas, wedi diolch i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth ar ôl iddo gael ei daro’n wael ym mis Ionawr. Cafodd lawdriniaeth ar ei galon a mae’n gwella adre yng Ngwent.
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi anfon negeseuon ata i a Paula dros y chwech wythnos diwethaf,” meddai’r prop pen tynn.
“Rwy’n teimlo’n dda ar hyn o bryd ac rwy’n gwella.
“Roedd yn sioc mawr yn amlwg, ond rydw i wedi derbyn cefnogaeth arbennig a chymaint o negeseuon gan gefnogwyr. Mae wedi bod o gymorth mawr i mi wella’n gylfym.”
Nid yw Rhys Thomas wedi gwneud penderfyniad eto am ei ddyfodol ac mae’n trafod gyda thîm meddygol a staff y rhanbarth ar hyn o bryd.
Tîm y Sgarlets yn erbyn Caeredin, nos Wener am 7.35:
15 Liam Williams, 14 George North, 13 Gareth Maule, 12 Jon Davies, 11 Andy Fenby, 10 Rhys Priestland, 9 Gareth Davies, 1 Rhodri Jones, 2 Matthew Rees (capten), 3 Deacon Manu, 4 Sione Timani, 5 Dominic Day, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 Kieran Murphy.
Eilyddion: Ken Owens, Phil John, Peter Edwards, Damian Welch, Mat Gilbert, Liam Davies, Stephen Jones, Sean Lamont.