Roedd tua hanner poblogaeth Cymru wedi gwylio’r tîm rygbi cenedlaethol yn sicrhau’r Gamp Lawn drwy faeddu Ffrainc.
Yn ôl y BBC gwyliodd miliwn o bobol y gêm ar BBC One, ac roedd 400,000 arall wedi gwylio’r uchafbwyntiau yn ddiweddarach.
Dywedodd S4C wrth Golwg 360 bod cannoedd o filoedd hefyd wedi gwylio’r gêm ar eu sianel hwythau.
“Fe diwniodd 75,000 o bobl i mewn i’r rhaglen yn Gymraeg ar S4C yn eu cartrefi. Roedd 57,000 o’r rheiny, sef 76% ohonynt, yn siaradwyr Cymraeg,” meddai llefarydd.
Roedd arolwg gan Beaufort Research hefyd yn dangos fod 300,000 arall wedi gwylio’r gêm ar BBC One mewn tafarn neu glwb.
Gwrandawodd 200,000 o bobol ar y gêm ar BBC Radio Wales.
Dywedodd pennaeth marchnata BBC Cymru, Richard Thomas, fod y ffigyrau yn dangos pa mor frwd yw pobol Cymru o blaid rygbi.
“Rydyn n i’n gwybod bod archwaeth anferth am rygbi yng Nghymru,” meddai.