Katherine Jenkins
Mae Katherine Jenkins wedi dweud ei bod hi wrth ei bod gyda’i llwyddiant ar y rhaglen Americanaidd, Dancing with the Stars.

Ond dywedodd y gantores o Gymru nad yw hi’n cymryd “unrhyw beth yn ganiataol,” ar ôl cyrraedd brig y tablau ddwywaith yn ystod y rhaglen.

Mae’r rhaglen yn dilyn yr un math o batrwm â Strictly Come Dancing ym Mhrydain.

Dywedodd wrth raglen ITV Daybreak heddiw ei bod hi “wrth ei bodd” ei bod hi wedi goroesi hyd yma, yn enwedig gan nad yw hi’n wyneb cyfarwydd i ran fwyaf gwylwyr yr Unol Daleithiau.

Cyfaddefodd y  fezzo-soprano 31 oed ei bod hi’n “wyneb newydd iawn yn America, ac o ystyried fod hanner y gystadleuaeth yn ddibynnol ar bleidlais y cyhoedd, do’n i wir ddim eisiau cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Ond dwi i wrth fy modd yn cael goroesi hyd yma.”

Dywedodd ei bod hi wedi ei synnu gyda phoblogrwydd y rhaglen, a sut mae ei bywyd wedi newid.

“Mae’r sioe yn anferth fan hyn,” meddai. “Mae pobol wedi bod yn fy adnabod ac mae’r paparazzi wedi bod yn fy nilyn.

“Ond rydw i wrth fy modd â’r dawnsio, r’yn ni’n cael gymaint o hwyl.”

Ond mae’r gantores, oedd mewn perthynas â’r cyflwynydd o Gymro Gethin Jones nes y llynedd, wedi gwadu ei bod hi bellach mewn perthynas â’i phartner dawnsio Mark Ballas.

“Mae ganddo gariad a dwi ddim yn barod i symud ymlaen. Rydw i’n mynd i ganolbwyntio ar y dawnsio,” meddai.

Y seren ryngwladol o fyd tennis, Martina Navratilova, oedd y cystadleuydd cyntaf i adael y  gystadleuaeth yr wythnos hon.