Mae adroddiadau na fydd gorsaf niwclear Wylfa B yn cael ei hadeiladu wedi’r cwbl.

Yn ôl papur newydd y Sun fe fydd cwmnïoedd RWE Npower ac E.ON yn cyhoeddi nad ydyn nhw’n bwriadu adeiladu’r orsaf.

Roedd disgwyl y byddai’r orsaf niwclear, a fyddai wedi ei hadeiladu gerllaw hen orsaf niwclear Wylfa ar Ynys Môn, yn weithredol erbyn 2020.

Fe allai’r newyddion fod yn ergyd i economi’r ynys ond yn rhyddhad i ymgyrchwyr, gan gynnwys Pobol yn Erbyn Wylfa B, sydd wedi gwrthwynebu’r datblygiad.

Dywedodd ffynonellau wrth bapur newydd y Sun bod y cwmnïoedd dan bwysau i dorri’n ôl yn dilyn penderfyniad Llywodraeth yr Almaen i roi’r gorau i ynni niwclear.

Daeth y penderfyniad hwnnw yn dilyn trychineb Fukushima yn Japan y llynedd.

Mae’r cwmnïoedd yn cynnal 23 gorsaf niwclear yn yr Almaen ac yn wynebu gorfod talu i’w cau nhw i gyd i lawr.

‘Y cwmni eisiau tynnu’n ôl’

Mae asiantaeth newyddion Reuters yn dweud bod yr adroddiadau ynglŷn â chynlluniau’r cwmniau Almaenig RWE ac E.ON wedi cael eu cadarnhau bellach.

Yn ôl Reuters, mae cwmniau E.ON a RWE wedi cadarnhau eu bod wedi rhoi’r gorau i’w cynlluniau i adeiladu gorsafoedd nwiclear newydd ym Mhrydain, gan gynnwys yr un ar gyfer Ynys Môn.

“Mae’r cwmniau eisiau tynnu’n ôl,” meddai ffynhonnell sy’n agos i’r cwmni, wrth asiantaeth Reuters.

Mae’r ddau gwmni, sy’n cydweithio ar fenter Horizon i godi Wylfa B, wedi gwrthod gwneud sylw y bore ’ma.

Dydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Horizon wrth Golwg 360 y byddai eu “datblygiad arfaethedig ar gyfer Wylfa yn gallu cynhyrchu dros 3GW o ynni carbon isel mewn modd diogel a fforddiadwy, gyda chyfleoedd arbennig am gyflogaeth, a buddiannau sylweddol i economi Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.”

Mae’r datblygiad hwnnw, erbyn heddiw, yn edrych yn annhebygol.

Roedd y cwmni wedi cynllunio i adeiladu pwerdai hyd at 6,000 megawat ym Mhrydain erbyn 2025, gan fod cyfreithiau Prydain ynglŷn â niwclear yn fwy croesawgar na gwledydd eraill.

Ond roedd y cwmniau wedi awgrymu’n ddiweddar eu bod nhw’n pryderu bod y costau yn mynd i fynd yn rhy uchel, fel a welwyd mewn prosiectau eraill yn Ewrop.