Mae un o Gyfarwyddwyr S4C, a fu gyda’r sianel ers 1999, wedi penderfynu gadael ei swydd.

Arshad Rasul oedd Cyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu S4C a dywed y sianel ei fod yn gadael “i fynd ar drywydd sialensiau newydd yn y diwydiant”.

Bu Arshad Rasul yn gyfrifol am oruchwylio’r newid i ddarlledu digidol a datblygiad clirlun ar S4C. Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi diolch a dymuno’n dda iddo.

Dywedodd Arshad Rasul: “Dw’i wedi gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a’r proffesiynoldeb o fewn fy nghyfarwyddiaeth dros y 12 mlynedd ddiwethaf ac rwy’n diolch i bawb am weithio gyda mi drwy’r holl sialensiau oedd rhaid eu goresgyn yn ystod y cyfnod.”