Aled Eirug
Mae Aled Eirug wedi’i benodi fel Cadeirydd nesaf Pwyllgor Cynghori’r British Council Cymru.

Fe fydd yn olynu  Elan Closs Stephens a ymddiswyddodd ym mis Chwefror eleni.

Yn dilyn gyrfa yn ITV Cymru a’r BBC, lle y cafodd ei benodi’n Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, mae Aled Eirug wedi parhau i ymwneud â maes polisi’r cyfryngau a gwasanaeth cyhoeddus, gan weithredu fel Cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru (2006-2011) a chynghorydd cyfansoddiadol i’r Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2006-Mai 2011).

Cysylltiadau diwylliannol

Dywedodd Aled Eirug: “Pleser o’r mwyaf yw dod yn gadeirydd Pwyllgor Cynghori’r British Council Cymru, yn enwedig nawr, gan fod angen y ddealltwriaeth sy’n dod o gysylltiadau diwylliannol rhwng cenhedloedd arnom yn fwy nag erioed.

“Bu’n fraint i mi gael bod yn aelod o’r pwyllgor cynghori dros y tair blynedd ddiwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â phartneriaid y Cyngor ym meysydd addysg, diwylliant, y celfyddydau a’n sefydliadau etholedig yng Nghymru er mwyn codi proffil y wlad dramor, ac arddangos y cyfoeth o dalent sydd gennym yng Nghymru i gynulleidfa fyd-eang.

“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Elan Closs Stephens a fu’n gadeirydd arbennig ar y pwyllgor dros y saith mlynedd diwethaf”

Dywedodd Rebecca Matthews, Cyfarwyddwr British Council Cymru:  “Mae hwn yn gyfle gwych i’r British Council ddatblygu ei waith yng Nghymru a thros Gymru gan gydweithio’n agos â Phwyllgor Cynghori Cymru o dan arweiniad Aled.”