Mae cyn ohebydd y News of the World Neville Thurlbeck wedi cael ei arestio am yr ail waith heddiw gan dditectifs sy’n ymchwilio i achosion o hacio ffonau.

Roedd Neville Thurlbeck yn un o’r rhai cyntaf i gael eu holi gan swyddogion sy’n rhan o Operation Weeting fis Ebrill y llynedd.

Cafodd ei arestio ddiwrnod ar ôl i gyn olygydd y Sun Rebekah Brooks, ei gŵr Charlie, a phedwar o ddynion eraill eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.