Protest tu allan i'r Senedd
Daeth dros 200 o bobol ynghyd i brotestio ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, er mwyn tynnu sylw at eu pryderon ynglŷn â dyfodol Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.
Cynhaliwyd y brotest i gyd-fynd â chyflwyno deiseb ag arni dros 3,000 o enwau i’r Cynulliad, gan bobol yn galw ar y Llywodraeth a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i beidio ag israddio gwasanaeth yr ysbyty yn Llanelli.
Daw’r brotest ddiweddaraf wythnos yn unig wedi i gannoedd o Geredigion a chanolbarth Cymru ddod i Fae Caerdydd i brotestio ynglŷn â phryderon tebyg yn ymwneud ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth – sydd hefyd dan ofal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Lleddfu pryderon
Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi ceisio lleddfu pryderon pobol ynglŷn â’r newidiadau sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd, gan ddweud nad oes unrhyw gylluniau penodol i israddio unrhyw un o’r ddau ysbyty.
Ac mae swyddogion y bwrdd iechyd hefyd yn mynnu nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’r cynllyniau i ail-drefnu’r gwasanaethau.
Ond mae protestwyr yn dadlau fel arall, ac yn dweud bod diflaniad graddol y gwasanaethau yn “dystioleth” o’r cyfeiriad y mae ysbyty Llanelli yn ei droedio.
‘Y cyfrinachedd yn corddi pobol’
Ymhlith y protestwyr tu allan i’r Senedd heddiw roedd AC Plaid Cymru, Simon Thomas, sy’n dweud bod “cyfrinachedd” y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd yn bryder mawr i bobol sy’n gweld eu gwasanaethau’n newid yn barod ar lawr gwlad.
“Y cwestiwn go iawn yw – esboniwch pa wasanaethau sydd yn mynd i symud i le, a pha wasanaethau sydd yn mynd i fod ar gael yn Ysbyty Tywsog Philip, Glangwili, Llwynhelyg, Bronglais – yr holl fanylion yna sydd ar goll,” meddai Simon Thomas wrth Golwg 360 heddiw.
Yn ôl yr Aelod Cynulliad dros ganolbarth a gorllewin Cymru, mae’r cyfrinachedd wedi gwneud y cyhoedd hyd yn oed yn fwy drwgdybus o gynlluniau’r awdurdodau.
“Hyd at bythefnos yn ôl, roedd pawb yn dweud mai nid arian oedd tu ôl i hyn, ond yn hytrach, beth oedd yn saff a beth oedd y gofal mwyaf priodol. Ac yna’n sydyn iawn mae’r Prif Weinidog yn cyfaddef, ‘wel, mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth gyda’u harian nhw,” meddai.
“Os nad oes yna eglurdeb ynglŷn â’r cynlluniau, mae pobol yn gallu dechrau llenwi’r diffyg, y tir gwag yna, a’i lenwi â phob math o storiau,” rhybuddiodd Simon Thomas.
‘Torri gwasanaethau’
Un arall oedd yn y brotest prynhawn yma oedd Hugh Evans, fu’n gweithio fel llawfeddyg ymgynghorol yn ysbyty’r Tywysog Philip rhwng 1986 a 2007.
“Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd,” meddai Hugh Evans. “Mae bwrdd iechyd ar ôl bwrdd iechyd wedi bod yn torri’r gwasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Philip – gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth, paediatreg, llawdriniaethau brys a chyffredinol, yn ogystal â thrawma,” meddai.
“I boblogaeth o 120,000 mae gan hyn sgil-effeithiau difrifol, gan nad oes gan bobol y gwasanaethau hyn yn lleol wedyn.
“Mae’r gwasanaethau yn cael eu canoli mwy a mwy i Glangwili, Caerfyrddin a Threforys yn Abertawe, ond mae’r ysbytai hynny eisoes yn methu ymdopi â’r gwaith sydd ganddyn nhw. Os ydyn nhw’n delio â chleifion Llanelli hefyd fe fydd hi’n anhrefn llwyr yna,” meddai.
‘Gwella nid israddio’
Yn ôl adroddiadau, mae cynlluniau wedi cael eu rhoi ger bron i droi uned damweiniau brys Llanelli yn uned gofal brys – gyda’r gwasanaethau brys llawn yn cael eu cynnig yng Nglangwili yng Nghaerfyrddin neu yn Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Mae pobol leol yn poeni y byddai cynllun o’r fath yn golygu na fyddai gan ysbyty’r Tywysog Philip lawer o ddyfodol.
Ond y bore ’ma fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths ei bod hi wedi bod mewn trafodaethau gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda a’u bod wedi ei sicrhau fod y cynlluniau “yn canolbwyntio ar wella, yn hytrach nag israddio, y gwasanaethau ar draws Hywel Dda – gan gynnwys Ysbyty’r Tywysog Philip.
“Mae’r bwrdd iechyd yn y brosoes o drafod â staff a’r boblogaeth leol er mwyn cynhyrchu cynigion ar gyfer newid y gwasanaeth, a fydd yn cael eu cyflwyno yn y misoedd nesaf trwy ymgynghoriad cyhoeddus.
“Bydd yr holl gynlluniau fydd yn cael eu cyflwyno gan Fyrddau Iechyd ar draws Cymru yn cael eu hystyried nid yn unig gan y Fforwm Clinigwyr Cenedlaethol annibynnol, ond hefyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn fwyaf pwysig, gan y cyhoedd,” meddai.
“Mae’n bwysig felly fod pobol yn ymwneud â’r cynlluniau hynny dros y misoedd nesaf.”