Leighton Andrews
Mae Gweinidog Addysg a Sgiliau Cymru, Leighton Andrews, wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth San Steffan i leihau’r cymhorthdal presennol i Remploy gan ddweud ei fod yn “siomedig tu hwnt”.

Dywedodd Leighton Andrews ei fod wedi cael gwybod am y penderfyniad i dorri’r cyllid i’r asiantaeth sy’n  darparu swyddi i bobol anabl ar draws y Deyrnas Unedig gan San Steffan yn hwyr y bore ’ma.

Mae’r cyhoeddiad gan Adran Waith a Phensiynau San Steffanyn yn golygu fod saith o’r naw ffatri sydd gan Remploy yng Nghymru yn debygol o gau, gan olygu bod 272 o staff yn colli eu gwaith.

Bydd 36 o ffatrioedd yn cau i gyd ar draws y DU, o’r 54 mae Remploy yn eu cynnal ar hyn o bryd.

“Mae gan y cyhoeddiad hwn sgil-effeithiau eang iawn nid yn unig ar fywydau unigolion, ond hefyd ar deuluoedd a chymunedau ar draws Cymru,” meddai Leighton Andrews.

‘Ergyd waeth i Gymru’

“Mae’n glir fod Cymru wedi ei heffeithio’n anghymesur gan y toriadau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw,” meddai Leighton Andrews yn ei ddatganiad i’r Senedd.

Mae disgwyl i saith o ffatrioedd gael eu cau yng Nghymru, sef Aberdâr, Abertyleri, Penybont, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam. Ond mae disgwyl i’w ffatrioedd yn y Porth a Chastell-Nedd gael eu cadw ar agor.

“Dwi’n cael ar ddeall fod y ffatrioedd yn y Porth a Chastell-Nedd yn cael eu hystyried, yng ngeiriau Llywodraeth y DU, â ‘photensial o fod yn ymarferol’,” meddai Leighton Andrews heddiw.

Dyletswydd San Steffan

Wrth ymateb i gwestiynau ar lawr y Siambr ynglŷn â pha gamau fyddai Llywodraeth Cymru nawr yn eu cymryd i helpu’r bobol sydd wedi eu heffeithio, dywedodd Leighton Andrews y bydden nhw yn trafod ag undebau llafur gan weld beth oedd yn bosib.

Ond, roedd yn mynnu mai cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan oedd sicrhau bod y bobol sydd wedi eu heffeithio yn cael cefnogaeth yn ystod y misoedd nesaf.

“Mae cyflogaeth, gan gynnwys cefnogi cyflogaeth arbenigol ar gyfer pobol anabl, yn fater sydd wedi ei gadw’n ôl gan Lywodraeth y DU,” meddai.

“Dydi hi ddim fyny i ni i dalu’r biliau sy’n rhan o ddyletswyddau’r DU,” meddai – ond mynnodd y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud eu rhan i lenwi’r bwlch.

Creu asiantaeth newydd?

Roedd awgrym yng ngeiriau’r Gweinidog hefyd y gallai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar greu asiantaeth newydd, tebyg i Remploy Cymru, yn sgil cyhoeddiad San Steffan heddiw – ond dywedodd na fyddai’n briodol i wneud unrhyw sylwadau pellach ar y mater ar hyn o bryd.

“Rydw i wedi gofyn i Weinidog y DU am fanylion llawn ynglŷn â chefndir y penderfyniad hwn, gan gynnwys cyhoeddi unrhyw astudiaethau a wnaed ynglŷn ag ymarferoldeb y ffatrioedd,” meddai Leighton Andrews.

“Mae angen cael trafodaeth ar unwaith ynglŷn ag asedau Remploy yng Nghymru fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio mewn ffordd ystyrlon gyda phobol anabl, yr undebau llafur perthnasol, ac eraill sy’n ceisio sefydlu mentrau cymdeithasol.”

Fe fydd Remploy nawr yn dechrau ar gyfnod ymgynghori 90 diwrnod yn ymwneud â chau’r ffatrioedd sydd wedi eu heffeithio.

‘Ergyd’

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y newyddion am doriadau i gyllid Remploy  yn ergyd mawr i Gymru.

Yn ôl Alun Ffred Jones, Llefarydd Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth y blaid, mae’r cyhoeddiad yn siomedig iawn.

“Mae’n ddiwrnod du iawn,” meddai Alun Ffred Jones, wrth siarad yn y ddadl frys a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd y prynhawn ’ma.

“Mae’r diffyg ymgynghori ar y mater yn syndod mawr, ac mae’n siom na wnaethon ni ofyn am ddatganoli cyllideb Remploy yn gynt,” meddai.