Dinbych-y-Pysgod
Mae Dinbych-y-Pysgod wedi dod yn bumed mewn arolwg ymhlith defnyddwyr gwefan wyliau i ddewis y lleoliad gwyliau glan-môr gorau ym Mhrydain.
Yn ôl defnyddwyr TripAdvisor, Bournemouth yn ne Lloegr yw’r gyrchfan glan-môr orau ym Mhrydain, a Dinbych-y-Pysgod a ddewiswyd yn bumed gan gyrraedd y brig o blith lleoliadau Cymru.
Yn ôl y wefan mae Dinbych-y-Pysgod “wedi ei hamddiffyn o’r byd y tu allan gan gyfres o waliau cerrig o’r drydedd ganrif ar ddeg, sydd, yn rhyfedd iawn, yn denu yn hytrach na chadw allan ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae’n dref odidog, a mae milltiroedd o draethau bendigedig gerllaw.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Lewis, aelod cabinet Cyngor Sir Benfro ar hamdden a thwristiaeth, wrth Golwg360, ei fod wrth ei fodd gyda’r newydd.
“Mae gyda ni draethau Baner Las bendigedig, a golygfeydd gwych o’r arfordir yn Ninbych-y-Pysgod, ond mae hefyd yn dref gyfeillgar a swynol iawn. Gobeithio bydd defnyddwyr TripAdvisor yn dod yn ôl yma unwaith eto i fwynhau’r traethau hyfryd sydd gyda ni yn Sir Benfro”.