Ysgwrn, cartref Hedd Wyn
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi heddiw fod cartref deuluol bardd y Gadair Ddu, ynghyd â’i holl gadeiriau eisteddfodol, wedi eu diogelu ar gyfer y dyfodol.
Mae ffermdy Hedd Wyn, yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, wedi cael ei brynu gyda chymorth Llywodraeth Cymru, Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Ond yn ogystal â’r ffermdy, mae’r partneriaid hefyd wedi sicrhau’r tai allan, byngalo, tir amaethyddol, chwe chadair Eisteddfod a deunydd archifol pwysig.
Canolfan gyhoeddus i’r bardd
A dim ond y dechrau fydd hwn, wrth sicrhau cofadail cenedlaethol i Hedd Wyn, wrth i’r Ysgwrn gael ei ddatblygu’n ganolfan gyhoeddus i’r bardd, a fu farw ym Mrwydr Passchendaele yn 1917 – chwech wythnos cyn iddo ennill cadair Eisteddfod Penbedw am ei gerdd ‘Yr Arwr’.
Mae’r gadair honno yn yr Ysgwrn ers hynny, dan len ddu, wedi ei warchod hyd yma gan nai’r bardd, Gerald Williams, sydd wedi cadw addewid y teulu i ofalu am y ffermdy er mwyn cofio am Hedd Wyn.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithredu ac yn gofalu am yr eiddo nawr, ac maen nhw’n barod i gychwyn rhaglen ddatblygu ddwy flynedd i ddehongli hanes Hedd Wyn a bywyd ar fferm yn Eryri ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Buddsoddiad pwysig
Bydd hefyd yn sicrhau bod mynediad y cyhoedd i’r safle yn parhau ac yn gwella, yn enwedig i blant ysgol.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw fod y buddsoddiad yn un pwysig iawn i dreftadaeth Cymru.
“Wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd yr adeilad pwysig hwn a’i gasgliadau unigryw yn cael eu diogelu er mwyn y genedl gyfan.
“Mae Hedd Wyn, ei waith a thrychineb ei dranc yn rhoi lle arbennig iddo yn hanes a diwylliant ein cenedl,” meddai, “ac mae’n fwy arwyddocaol byth wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf a chofio aberth cynifer o bobl,” meddai.