Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud fod gan ffermwyr Cymru le mawr i bryderu, wrth i’r feirws Schmallenberg gael ei ddarganfod mewn nifer cynyddol o ffermydd ar draws Lloegr.

Dywedodd Emyr Jones wrth Golwg 360 y bore ’ma bod pryder mawr mai “dim ond y dechrau” yw’r achosion sydd wedi eu cofnodi hyd yn hyn.

Mae’r clefyd, sy’n achosi nam geni ac erthylu ar ddefaid a gwartheg, wedi cael ei ddarganfod mewn 74 fferm ar draws Lloegr yn barod.

Mae’r clefyd wedi cael ei ddarganfod 69 gwaith mewn defaid a phump gwaith mewn gwartheg hyd yn hyn, yn ôl swyddogion DEFRA.

Tymor yr ŵyna

Ond yn ôl Emyr Jones, mae’n fwy na phosib fod yr haint wedi bod yn y wlad ers misoedd.

“Efallai bod y drwg wedi ei wneud mor bell yn ôl â’r hydref,” meddai, “bod yr anifeiliad wedi ei godi fo yn yr hydref, ond mai nawr mae o’n dangos ’i hun, gan ei bod hi’n ddechrau ar dymor yr ŵyna.”

Ond â hithau’n ddechrau ar un o’r cyfnodau prysuraf yng nghalendr nifer o ffermydd Cymru a Lloegr, y pryder yw mai dim ond rhan o’r darlun llawn yw hwn, gyda’r prysurdeb yn golygu efallai nad yw nifer o’r anifeiliad sy’n cael eu geni â’r feirws yn cael eu cofnodi.

‘Pryder mawr’

Wrth siarad â Golwg 360 y bore ’ma, dywedodd Emyr Jones ei fod yn annog unrhyw ffermwr sy’n amau bod y feirws wedi heintio ei ŵyn i gysylltu â’i filfeddyg ar unwaith.

“Mae o’n byrder mawr, achos mae o’n afiechyd mor newydd,” meddai.

“Does dim llawer o wybodaeth amdano fo ar hyn o bryd, a does dim un brechiad ar gael i’w wrthsefyll o.”

Y gred ar hyn o bryd yw bod y feirws, a gafodd ei ddarganfod yn yr Iseldiroedd a’r Almaen y llynedd, wedi ymledu trwy wybed, mosgitos a throgod.

Mae’r feirws yn achosi mân symtomau mewn gwartheg aeddfed, gan gynnwys cynhyrchu llai o laeth a dolur rhydd, ond mae’n gallu achosi erthylu hwyr ac anffurfiadau mewn defaid, gwartheg a geifr newydd-anedig.

Hyd yn hyn, mae’r achosion pendant o’r feirws wedi cael eu darganfod yn Swydd Wilton, Gorllewin Berkshire, Swydd Gaerloyw ac Ynys Wyth. Mae hyn yn ychwanegol at y siroedd lle’r oedd y feirws eisoes wedi ei ddarganfod, yn ne a dwyrain Lloegr, sef Norfolk, Suffolk, Essex, Caint, Dwyrain a Gorllewin Sussex, Swydd Hertford, Surrey, Hampshire a Chernyw.

Disgwyl cynnydd mewn achosion

Dywedodd llefarydd ar ran DEFRA heddiw fod disgwyl i’r achosion o Schmallenberg gynyddu, “wrth i gyfnod ŵyna a lloia brysuro.

“Mae Schmallenberg wedi cael ei adnabod yn y de, y de orllewin, a dwyrain Lloegr, ac r’yn ni’n amau bod yr anifeiliad wedi derbyn y feirws gan wybed a chwythwyd ar draws y sianel o ardaloedd heintiedig yn Ewrop,” meddai.

“Wrth i ffermwyr, milfeddygon a llywodraethau dal i gasglu gwybodaeth am ddatblygiad ac effeithiau’r clefyd, mae’n holl bwysig bod ffermwyr yn dal i gofnodi unrhyw amheuon sydd ganddyn nhw mor gyflym â phosib.

“Mae’r Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau Ewropeaidd yn dweud ei bod yn anhebygol y byddai’r feirws Schmallenberg yn achosi clefydau mewn pobol.”

Ond wrth saiarad â Golwg 360, rhybyddiodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, ei bod hi’n bwysig i ffermwyr Cymru fod yn wyliadwrus, wrth i’r clefyd symud yn agosach at y ffin.