Mae banc HSBC wedi cyhoeddi elw cyn treth o £13.8 biliwn heddiw – cynnydd o 15% ers y llynedd.

Dywedodd HSBC bod eu helw yn y DU wedi cynyddu 17.2% ers y llynedd i £1.5 biliwn.

Mae’r banc, sy’n gwneud 90% o’i arian tu allan i Brydain, wedi elwa ar ol datblygu ei farchnadoedd yn Asia.