Bethan Jenkins AC
Mae AC Plaid Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd yn gwrthwynebu’r cais am yr hawl i ddefnyddio enwau parth ‘.cymru’ a .wales.’
Daw’r cyhoeddiad yn sgil penderfyniad i ehangu’r nifer o gyfeiriadau sydd ar gael fel ‘.com, ‘.net’ a ‘.org’.
Dywedodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru: “Rwy’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio gwrthwynebu enwau parth .cymru a .wales.
“Bydd sefydlu’r enwau parth yma yn rhoi cyfle i gwmnïau Cymreig i sefydlu eu hunaniaeth Gymreig ar fforwm byd-eang, ac mae hynny’n newyddion da,” meddai.
“Bu Plaid Cymru yn ymgyrchu’n hir o blaid y penderfyniad yma, sy’n cynnig potensial anferth i fusnesau ac economi Cymru, ac rwy mor falch fod Llafur wedi cytuno gyda ni yn y diwedd.”
Cais gan Nominet
Icann yw’r corff sy’n cofrestru enwau parth y rhyngrwyd, ac mae’n costio £240,000 i gyflwyno’r enwau parth newydd.
Nominet, y corff cofrestry Prydeinig sydd wedi gwneud y cais i geisio am yr enwau ‘.cymru’ a ‘.wales’. Mae’r corff eisoes wedi cofrestru dros 9 miliwn o gyfeiriadau gwefan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eisoes na fydd yn cyfrannu’n ariannol tuag at yr achos.