Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cadarnhau bod Llafur yn targedu pleidleisiau cefnogwyr Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r cynghorau ym mis Mai.

Dywed fod cefnogwyr Plaid Cymru wedi cael eu dadrithio dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae Plaid Cymru mewn twll dwfn o’u gwneuthuriad eu hunain,” meddai. “A oes unrhyw syndod mai nhw yw’r drydedd blaid yng ngwleidyddiaeth Cymru bellach?

“Os edrychwch chi ar y poliau piniwn diweddaraf, fe wyddon ni nad yw dau draean o bleidleiswyr Plaid Cymru o blaid annibyniaeth – ond eto annibyniaeth yw prif thema gornest arweinyddol y Blaid.

“Ein neges i’r bobl sy’n falch iawn o fod yn Gymry yw mai Llafur Cymru yw eu cartref naturiol, ac nid Plaid Cymru.”

Yn ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru yng Nghaerdydd ddoe, dywedodd fod Llafur wedi gwneud mwy dros yr iaith Gymraeg nag a wnaeth Plaid Cymru erioed.

“Tra bod Plaid Cymru wrthi’n pendroni a ddylen nhw greu enw Saesneg iddyn nhw’u hunain, mae Llafur wedi creu’r swydd o gomisiynydd yr iaith Gymraeg,” meddai.