Y bws a drodd drosodd yn Ffrainc (Llun PA)
Mae athro 59 oed o Swydd Gaerwrangon wedi cael ei ladd mewn damwain bws yng ngogledd Ffrainc.

Cafodd pedwar o’i ddisgyblion hefyd eu hanafu’n ddifrifol wrth i’r bws yr oedden nhw’n teithio ynddo droi drosodd gerllaw dinas Reims yn ardal Champagne-Ardenne.

Roedd Peter Rippington ymhlith criw o athrawon a disgyblion o’r ysgol a oedd ar eu ffordd adref ar ddiwedd taith sgïo, pan ddigwyddodd y ddamwain tua 2.30 y bore yma.

Aed â chyfanswm o 27 o bobl i ysbyty gerllaw, yn eu plith gwraig Peter Rippington, Sharon sy’n  gwella mewn ysbyty ar hyn o bryd.

Roedd 21 o oedolion a 29 o blant yn teithio ar y bws.