Y Frenhines Elizabeth II
Mae’r elusen Age Cymru yn apelio ar y cyhoedd i fanteisio ar ddathliadau Jiwbili Diemwnt y Frenhines fel cyfle i gydnabod cyfraniad pobl hŷn i’w cymunedau.

Mae Age Cymru ymysg 50 o grwpiau cymunedol trwy Brydain sy’n datgan eu cefnogaeth i Ginio Mawr y Jiwbili ddydd Sul 3 Mehefin. Gobaith y trefnwyr yw cael hynny ag sy’n bosibl o drigolion y Deyrnas Unedig i gymryd rhan yn y digwyddiad cymdeithasol, boed hynny’n barti stryd neu’n bryd bwyd mewn canolfan gymunedol.

“Rydyn ni’n teimlo’n angerddol ynghylch cydnabod y cyfraniad rhyfeddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd bob dydd yn eu cymunedau,” meddai Prif Weithredwr Age Cymru, Peter Stewart.

“Mae’r Cinio Mawr yn cynnig cyfle gwych i gynnwys pobl hŷn mewn unrhyw gynlluniau dathlu.

“Gofynnwn i unrhyw un sy’n trefnu Cinio Mawr yng Nghymru i sicrhau eu bod nhw’n gwahodd cymdogion, ffrindiau a pherthnasau hŷn.

“Wedi’r cwbl, os ydych chi’n dathlu’r Jiwbili, pa well ffordd o ddarganfod sut oedd bywyd 60 blynedd yn ôl na gofyn i rywun a oedd yno.”

Mae Cinio Mawr y Jiwbili’n cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Mawr, mewn partneriaeth â MasterCard, Kingsmill ac EDF Energy.