Arlywydd, Syria Assad Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Daw adroddiadau fod milwyr Syria wedi tanio at alarwyr mewn gorymdaith angladdol enfawr yn y brifddinas Damascus heddiw.
Credir bod amryw o bobl wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiad yng nghymdogaeth Mazzeh. Roedd y gorymdeithwyr yn galaru ar ôl tri o bobl a gafodd eu lladd gan luoedd y llywodraeth mewn protestiadau yn yr ardal ddoe.
Dywed llygad-dyst fod tua 15,000 o bobl yn yr orymdaith angladdol.
Dyma fyddai’r nifer mwyaf o wrthwynebwyr y llywodraeth i ymgynnull yng nghanol Damascus yn ystod yr 11 mis o wrthryfela yn erbyn yr arlywydd Bashar Assad.