Gary Speed
Bydd y Super Furry Animals, Bryn Terfel ac Only Men Aloud yn perfformio yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn y gêm i ddathlu bywyd Gary Speed ddiwedd y mis.

Mae’r bandiau ymysg nifer fydd yn perfformio cyn gêm Cymru yn erbyn Costa Rica ar 29 Chwefror.

Daethpwyd o hyd i gorff Gary Speed yn farw yn ei garej yn ei gartref ger Caer ar 27 Tachwedd y llynedd.

Dyfarnodd crwner ddiwedd mis Ionawr nad oedd modd gwybod a oedd Gary Speed, 42, wedi bwriadu ei ladd ei hun.