Theatr Mwldan
Bydd datblygiad newydd £450,000 gan Theatr Mwldan yn Aberteifi yn cynnwys trydedd sgrin sinema.

Ar hyn o bryd mae gofod Mwldan 3 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a gan gymdeithasau lleol.

Bydd y £450,000 yn talu am ddigideiddio’r ddwy sinema bresennol yn ogystal â’r gofod newydd.

Yn dilyn y newidiadau, bydd Theatr Mwldan yn gallu arddangos mwy o ffilmiau, a chynnig rhagor o amrywiaeth, a hefyd dangos rhai ffilmiau’n nes at y dyddiad rhyddhau.

Bydd y datblygiad newydd yn golygu fod gan y Mwldan tair sgrin sy’n defnyddio’r offer digidol diweddaraf.

“Bydd y sgriniau i gyd yn hollol ddigidol, yn gallu derbyn signal lloeren a hefyd yn gallu chwarae ffilmiau 3D,” dywedodd Tamsin Davies, Rheolwr Gwerthiant a Marchnata theatr Mwldan.

Bydd digwyddiadau arferol Mwldan 3 yn symud i’r stiwdio yn Mwldan Creadigol, wrth ymyl safle’r Theatr.

Ariannwyd y prosiect gan nifer o fuddsoddwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Bartneriaeth Ariannu Ddigidol.

Roedd Cyngor Sir Ceredigion  hefyd wedi helpu trefnu cyllid gan y Gronfa Tyfiant Cymdeithasol Cymunedol a grant cymunedol.

Mae Theatr Mwldan hefyd wedi benthyg arian wrth Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

‘Cydnabyddiaeth’

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Theatr Mwldan wedi ei henwi gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’i bortffolio newydd o 71 sefydliad fydd yn derbyn cyllid refeniw,” meddai Dilwyn Davies, Cyfarwyddwr Theatr Mwldan.

“Mae’r Cyngor Celfyddydau wedi enwi Theatr Mwldan fel rhan o’i rwydwaith craidd newydd o 8 canolfan y celfyddydau, a ddisgrifiwyd fel sefydliadau enghreifftiol ar draws Cymru ac sydd wrth galon strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y dyfodol.

“Mae hwn wrth gwrs yn newyddion da i Aberteifi, ac yn gydnabyddiaeth genedlaethol wych o lwyddiant a rhagoriaeth Theatr Mwldan.”

Mae Dilwyn Davies, Cyfarwyddwr y Mwldan, wedi bod gyda Theatr Mwldan ers dros bymtheg mlynedd, ac yn cofio’r theatr yn cael ei sefydlu ar y safle 21 mlynedd yn ôl.

“Mae Theatr Mwldan yn gwmni cymunedol annibynnol dielw, sy’n gweithredu fel elusen. Wrth wraidd y Mwldan yw’r gred y gall y celfyddydau gyflwyno profiadau sy’n gallu newid a gwella bywydau pobol.”

Hanes y Mwldan

Cafodd y ganolfan celfyddydau ei ehangu yn sylweddol rhwng 2002 a 2004, fel rhan o brosiect £7 miliwn.

Daeth yr arian o sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol ac arian Ewropeaidd Amcan Un.

Cyn sefydlu Theatr Mwldan yn 1983, fuodd yr adeilad yn lladd-dy, a chyn hynny yn wyrcws Aberteifi.

Mae Theatr Mwldan yn cyflogi 19 person ar eu staff parhaol, a 3 prentis. Mae trosiant y cwmni yn £1.1 miliwn, ac mae’r sinema yn dangos tua 2,000 o ffilmiau pob blwyddyn.

Ceir hefyd tua 100 o berfformiadau byw pob blwyddyn.