Rowan Williams
Bydd Archesgob Caergaint yn dod i Sir Benfro ddiwedd mis Mawrth i sgwrsio am farddoniaeth y bardd a’r Crynwr, Waldo Williams.
Bydd y Gwir Anrhydeddus Rowan Williams yn traddodi’r ddarlith yng Nghapel Pisgah, Llandysilio ar Fawrth 23. Mae’r Anglican yn fardd yn ei hawl ei hun ac wedi trosi nifer o gerddi Waldo i’r Saesneg, gan gynnwys ‘Mewn Dau Gae’ ac ‘Wedi’r Canrifoedd Mudan’, ynghyd â cherddi gan T Gwynn Jones ac Ann Griffiths.
Mae hefyd wedi dyfynnu o waith Waldo mewn cynhadledd fyd-eang yn Efrog Newydd yn ddiweddar.
“Mae’n amlwg ei fod wedi cydnabod mawredd Waldo a’u bod nhw’n ddau enaid cyffelyb,” meddai Hefin Wyn, o Gymdeithas Waldo.
“Mae Rowan Williams yn fardd ei hunan a’i themâu yn aml iawn yn mynd i’r un cyfeiriad â themâu Waldo. Mae wedi ffoli ar ambell gerdd fel ‘Mewn Dau Gae’, lle mae Waldo yn cyfeirio at yr ysbryd bywiol neu beth bynnag yw’r ysbryd sy’n rheoli’n bywydau ni.”
Cyn ei benodi’n Archesgob Caergaint yn 2002 roedd Rowan Williams yn Archesgob Cymru am ddwy flynedd ac yn Esgob Mynwy cyn hynny. Mae’n hanu o ardal Abertawe.
Mae Cymdeithas Waldo wedi bod yn ei wahodd atyn nhw ers tro byd, ac yn falch iawn o lwyddo o’r diwedd. Bydd disgwyl i gapel bach yr Annibynwyr yn Pisgah fod yn llawn.
“Mae hyn yn profi unwaith eto bod Waldo nid yn gymaint yn fardd bro, ond yn fardd cenedl, ac yn fardd rhyng-genedlaethol,” meddai Hefin Wyn. “Bod pobol o’r tu fas i Gymru, y tu fas i Gymreictod efallai, yn cydio ynddo fe.
“Mae rhywun fel Rowan Williams yn medru mynd ag e ymhellach, mynd ag e ar draws y byd i dynnu sylw at ei ogoniant fel un o’r beirdd cyfriniol, Cristnogol yma. Mae’r rheiny’n brin, am wn i.”
Roedd Waldo yn aelod o gapel Blaenconin, nid nepell i ffwrdd o gapel Pisgah, gyda’r Bedyddwyr pan oedd yn llanc ifanc.