Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhedeg cynllun tridiau am y tro cyntaf erioed eleni, gan gynnig diwrnod ychwanegol i unrhyw un sy’n prynu tocyn deuddydd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod, sy’n cael ei gynnal ym Mro Morgannwg eleni, bod y “cynllun newydd yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd yn awyddus i ddod atom am ran o’r wythnos”.
“Rydym yn ymwybodol iawn ein bod mewn cyfnod o gyni economaidd a bod arian hamdden Eisteddfodwyr, fel pawb arall, yn brin ar hyn o bryd,” meddai.
“Ond drwy siarad gydag ymwelwyr o bob oed, rydym hefyd yn gwybod bod pobl yn awyddus i ddod i’r Eisteddfod ac i dreulio nifer o ddyddiau ar y Maes.
“Gobeithio y bydd y cynnig hwn yn fodd iddyn nhw wneud hyn, a dod atom i fwynhau’r Eisteddfod ym Mro Morgannwg.
“Prynwch docynnau ar gyfer deuddydd i’r Maes ac fe gewch fynediad am ddim i’r Maes ar ddiwrnod arall o’ch dewis,” meddai.
“Felly, os ydych chi’n prynu dau docyn oedolyn a dau docyn plentyn dan 12 i’r Maes ar gyfer unrhyw ddau ddiwrnod, gallwch archebu hyd at ddau docyn oedolyn a dau docyn plentyn dan 12 ar gyfer unrhyw ddiwrnod arall yn rhad ac am ddim, sy’n arbediad o £44.”
Bydd modd archebu tocynnau ar-lein a thrwy’r llinell docynnau – 0845 4090 800 – o 1 Mawrth ymlaen. Bydd y cynllun yn dod i ben ar 1 Gorffennaf.