Charles Dickens
Mae tystiolaeth newydd wedi dod i law Golwg am gysylltiad posib rhwng Charles Dickens a’r Gymraeg.
Wrth nodi dau ganmlwyddiant ei eni, mae apêl am wybodaeth all gadarnhau bod Cymro ymhlith ei gylch o ffrindiau yn Llundain yn y 1800au.
Yn ôl Gruffydd Aled Williams o Aberystwyth mae dogfen Gymraeg wedi’i darganfod mewn casgliad yn yr Unol Daleithiau sy’n perthyn i un o ffrindiau agosaf yr awdur yn y cyfnod.
“Fe ganfu yn llyfrgell Prifysgol Princeton albwm llofnodion a berthynai i Ellen Beard, chwaer i Thomas Beard, cyfaill oes Dickens, a chwaer hefyd i Frank Beard, ei feddyg,” meddai.
“Yn yr albwm fe geir pennill Cymraeg dienw na ŵyr neb pwy a’i sgrifennodd.” meddai Gruffydd Aled Williams am y gerdd sydd wedi’i hysgrifennu am Ellen Beard;
‘Moesau da, a calon lon,
Pob hedd, a golud ddigon
Vo i ti, tra dan y nen,
Y lanna un, vy Elen.’
Yn 2007 cyhoeddodd erthygl yn y cylchgrawn Llên Cymru yn tynnu sylw at waith ysgolhaig ym mhrifysgol Princeton. “Fe awgryma Robert C Hanna, awdur y nodyn yn Llên Cymru, fod y pennill Cymraeg a cherdd Dickens wedi eu sgrifennu yn yr albwm ar yr un diwrnod. Pwy, tybed, oedd y Cymro/Cymraes a oedd, efallai, yn adnabod Dickens?”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 16 Chwefror