'Nain' o Dim Byd
Mae’r rhaglen gomedi ‘Dim Byd’ gan Cwmni Da wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cyfryngau Celtaidd 2012.

Mae’n un o dri chynhyrchiad gan y cwmni sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a gafodd ei chyhoeddi heddiw – y nifer mwya’ o raglenni Cymraeg gan unrhyw gwmni o Gymru.

Mae ‘RhyfeddOd’ yn y categori addysg a ‘Wil a Cet’ yn y categori adloniant. Yn y categori pobol ifanc y mae ‘Dim Byd’.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Doire – Derry – yng Ngogledd Iwerddon ym mis Ebrill.

Cynnyrch Cymraeg arall ar y rhestr fer

‘Cariad@iaith,’ gan Fflic/ S4C (Adloniant ffeithiol)

‘Ras yn Erbyn Amser’ gan POP1/ S4C (Chwaraeon)

‘Burton’ gan Green Bay Media Ltd./ S4C (Drama hir)

‘Alys’ gan Teledu Apollo/ S4C (Cyfres ddrama)

‘Y Teulu Tomos’ gan Griffilms/ S4C (Animeiddio)

‘Jac Russell’ gan Boomerang Plus Plc/ S4C (Plant)

Côr Cymru 2011 gan Rondo Media/ S4C (Adloniant)

Rapsgaliwn/ Mistar Urdd gan S4C (Ymgyrch Marchnata)

BBC Radio Cymru (Gorsaf radio y flwyddyn)

Y Goeden Greu gan y BBC (Cyfryngau digidol)

Patagonia (Drama hir)