Cwpl o Fangor sydd wedi cipio Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Mae’r tlws yn cael ei rhoi yn flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Cafodd Marian a Bryn Tomos eu henwebu gan aelodau’r Urdd a rhieni’r ardal am eu gwaith yn cynnal Uwch Adran ac Aelwyd Bangor yn wythnosol ers 2004.  Bellach mae dros 80 o blant yn mynychu’r Uwch Adran, a dros 35 yn aelodau yn yr Aelwyd.

‘Anrhydedd’

Fe gawson nhw wybod eu bod wedi ennill y wobr mewn noson arbennig gafodd ei chynnal  yn ystod yr Uwch Adran.

Dywedodd  Marian Tomos:  “Mi gawsom ni dipyn o sioc ar y noson, pan gawsom ni wybod ein bod wedi ennill.

“Mae’n andros o anrhydedd a dydy rhywun ddim yn gwneud y gwaith bob wythnos er mwyn derbyn diolch na chlod – rydyn ni’n ei wneud am ein bod yn mwynhau ei wneud o.  Mae meddwl bod yr holl bobl ’ma wedi meddwl ein bod ni yn haeddu gwobr am y gwaith yn anhygoel.  Dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am ein henwebu ni ac am y pethau caredig maen nhw wedi ddweud.”

Un o’r rhieni a oedd wedi enwebu Bryn a Marian Tomos oedd Yr Athro Gerwyn Williams: “Mae eu cyfraniad yn hollbwysig at gynnal Cymreictod ymhlith pobl ifanc Bangor a’r cylch.  A’r hyn sydd yn denu’r bobl ifanc yw’r arlwy amrywiol ac eang: o sesiwn rapio gydag Ed Holden i noson paratoi cardiau Nadolig, o sesiwn sgïo i noson ddawnsio gwerin.”

‘Cyfraniad amhrisiadwy’

Ychwanegodd Gruff Pari sydd ym mlwyddyn 9 Ysgol Tryfan, ac yn un o selogion yr Uwch Adran: “Rwyf yn mynd i Uwch Adran Bangor bob nos Iau ac yn mwynhau cael cyfle i weld fy ffrindiau ar ôl ysgol mewn amgylchedd braf.

“Mae Bryn yn ddyn trefnus ac mae gwahanol weithgareddau difyr yn cael eu trefnu ar gyfer y nosweithiau gan gynnwys gemau, bandiau byw, siaradwyr gwadd a chwaraeon.”

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r cyfraniad mae unigolion fel Bryn a Marian yn ei wneud yn amhrisiadwy, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am eu gwaith diflino yn ardal Bangor.

“Maent yn cynnig cyfleoedd heb eu hail yn wythnosol i’r bobl ifanc, ac mae’r nifer sydd yn mynychu yn brawf o’r mwynhad mae’r plant yn ei gael.  Mae’n wych hefyd fod cwpl o Eryri wedi ennill, gyda’r Eisteddfod yn dod i Lynllifon ym mis Mehefin.”