Prifysgol Bangor
Bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn dod yn ol i Fangor eleni am y tro cyntaf ers 2007.

Mae’r Eisteddfod Ryng-golegol yn cael ei hystyried fel un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar galendr myfyrwyr Cymraeg neu ddysgwyr sy’n astudio yng Nghymru.

Bydd  yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, Chwefror 18, yn Neuadd Pritchard Jones.

Ar nos Wener, 17 Chwefror, bydd Gala Chwaraeon rhyng-golegol yn cynnwys rygbi, pêl-droed a chystadleuaeth pêl rwyd 7 bob ochr.

A bydd nos Sadwrn yn cynnig cyfle i weld rhai o fandiau ifanc mwyaf blaengar y sîn roc Gymraeg. Ymysg y bandiau fydd yn ymddangos mae Y Bandana, Cowbois Rhos Botwnnog, yr Al Lewis Band a Chreision Hud.

Noddwyr newydd

Mudiad Pontio yw prif noddwyr yr Eisteddfod Ryng-golegol, a hynny am y tro cyntaf eleni. Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn noddi’r gadair a’r goron, eto am y tro cyntaf eleni.

Dywedodd Rheolwr Marchnata Pontio, Elin H Thomas: “Mae’r Eisteddfod Ryng-golegol yn gyfle gwych i arddangos talent ifanc Cymru. Dyma gyfle Bangor i ddangos i holl Brifysgolion Cymru beth yr ydym yn ei wneud yma yn y Coleg. Mae dathlu celfyddydau, cerddoriaeth a chreadigrwydd yn ganolog i athroniaeth Pontio ac mae Pontio yn falch o fod yn brif noddwr ar gyfer y digwyddiad eleni.”

‘Dathlu ein hiaith a’n diwylliant’

“Ni’n falch iawn fod y ddau sefydliad newydd yma yn cefnogi digwyddiad ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, sef dyfodol yr iaith yng Nghymru,” dywedodd Mair Rowlands, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. “Mae’n bleser mawr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i noddi’r Eisteddfod Ryng-golegol ym Mangor eleni.

“Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yn ddigwyddiad arbennig ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ar draws Cymru i ddod at ei gilydd i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant – ac i gael tipyn bach o hwyl wrth gwrs”.