Wii
Mae’r gwasanaethau brys wedi rhybuddio na ddylid defnyddio canhwyllau wrth wneud defnydd o ddyfais y Wii wedi i fachgen wyth oed ddioddef llosgiadau drwg.

Mae Cairan Davies o Rydaman yn gwella mewn adran arbenigol er mwyn trin llosgiadau difrifol yn Abertawe ar ôl llosgi 8% o’i frest.

Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod nhw’n credu ei fod yn chwarae ar y Wii pan ddigwyddodd y tân.

Mae cyfarwyddiadau ar y we ynglŷn â sut i ddefnyddio canhwyllau os yw dyfais synhwyro’r Wii yn torri.

Ond dywedodd llefarydd ar ran gwasanaethau brys canolbarth a gorllewin Cymru fod ceisio gwneud hynny yn “hynod o esgeulus”.

“Fe gafodd y bachgen ddihangfa lwcus ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n rhybudd i bobol eraill,” meddai.

Galwyd y gwasanaethau bryd i’r cartref am 5.10pm ddydd Llun. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr.

Mewn datganiad gan Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg dywedodd Sarah Davies a James Setterfield, mam a llys-dad Cairan Davies, nad oes unrhyw un yn gwybod yn union beth ddigwyddodd.

“Nid yw Cairan wedi siarad eto ynglŷn â beth ddigwyddodd. Dydyn ni ddim yn caniatáu i’n plant chwarae â matsis,” medden nhw.