Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad ar ôl ddyn 28 oed gael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain beic pedair olwyn ddoe.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd y B4130 rhwng Brechfa a Horeb tua 3pm bnawn dydd Llun, 30 Ionawr. Mae’n debyg nad oedd cerbyd arall yn gysylltiedig â’r ddamwain.

Cafodd y dyn, sy’n byw’n lleol, ei gludo i’r ysbyty.

Roedd y ffordd ar gau am bump awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r ddamwain.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar y pryd ac a welodd y beic pedair olwyn coch i gysylltu â nhw ar 101.