David Cameron
Mae David Cameron wedi cythruddo rhai Ceidwadwyr gwrth-Ewropeaidd ar ôl iddo newid ei safiad ynglŷn â  chytundeb a fyddai’n gorfodi disgyblaeth cyllidol ym mharth yr ewro.

Fis diwethaf roedd David Cameron wedi defnyddio ei feto i wrthwynebu cytundeb yr Undeb Ewropeaidd i geisio achub yr ewro. Ond mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog bellach wedi ildio rhywfaint i’r cynlluniau.

Ar y pryd roedd David Cameron wedi mynnu na fyddai gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd yn cael defnyddio cyrff fel Llys Cyfiawnder Ewrop i orfodi dirwyon ar wledydd yr ewro oedd wedi gwario’n anghyfrifol. Roedd Cameron yn bryderus y byddai hyn yn cael effaith niweidiol ar ddiwydiant Prydain drwy erydu’r farchnad sengl.

Ond mewn cynhadledd arall ym Mrwsel neithiwr roedd yn ymddangos bod David Cameron yn cytuno â’r cytundeb – er y bydd Prydain yn aros y tu hwnt iddo. Roedd y Weriniaeth Tsiec hefyd wedi gwrthod arwyddo’r cytundeb.

Mae David Cameron wedi mynnu nad yw wedi newid ei safiad am y cytundeb. Ar ôl y cyfarfod dywedodd: “Dy’n ni ddim am atal gwledydd yr ewro rhag gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol i ddatrys yr argyfwng cyhyd a bod hynny ddim yn cael effaith ar ein buddiannau cenedlaethol.”

Mae’n mynnu na fydd y cytundeb rhwng 25 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn tanseilio’r farchnad sengl.

Ychwanegodd bod na bryderon cyfreithiol am y cytundeb ac y byddai’n cadw llygad barcud ar y drefn newydd.