Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd eu biliau dŵr yn cynyddu o fis Ebrill 2012 ymlaen.
Bydd bil pob cwsmser yn codi 3.8% ar gyfartaledd ym mis Ebrill, gan fynd a bil cytartaledd y cwmser o £411 i £427.
Mae Dŵr Cymru yn mynnu mai hwn yw’r cynnydd lleiaf o bob cwmni dŵr ar draws Cyrmru a Lloegr am eleni, ond mae’r pris yn dal dipyn yn uwch na bil dŵr cyfartaledd Cymru a Lloegr – fydd yn £376 o Ebrill ymlaen, yn ôl y rheoleiddiwr Ofwat.
Daw’r cyhoeddiad gan gwmniau dŵr a charffosiaeth ar draws Cymru a Lloegr heddiw wedi i Ofwat benderfynu peidio torri nôl ar filiau tai yn 2009 wrth bennu prisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Her
Ond mae’r rheoleiddiwr yn mynnu eu bod wedi herio cwmniau ar eu prisiau, ac oherwydd hynny bod disgwyl i filiau gynyddu law yn llaw â chwyddiant erbyn 2015 – sy’n rhyw 10% yn is na’r hyn yr oedd cwmniau yn ceisio’i gael, cyn i chwyddiant gael ei ystyried, medd Ofwat.
Dywedodd Prif Weithredwr Ofwat, Regina Finn, heddiw eu bod “yn deall nad yw unrhyw gynnydd mewn biliau yn cael ei groesawu, yn enwedig yn ystod y cyfnod economaidd anodd hyn.
“Mae chwyddiant yn bwydo trwodd i’r biliau dŵr, ac mae hynny’n achosi’r cynnydd,” meddai.
Addawodd Ofwat y byddai cwsmerieiaid yn cael “gwerth am arian.”
‘Manteision i bawb’
Mae cwmniau ar draws Cymru a Lloegr yn bwriadu buddsoddi £22 biliwn yn isadeiledd eu cwmniau erbyn 2015, yn ôl Ofwat.
Bydd hyn yn golygu “manteision i bawb,” meddai Regina Finn, “o wella dibynadwyaeth ein cyflenwadau dŵr i gael afonydd a thraethau glanach.”
Bydd Dŵr Cymru yn gyfrifol am wario £1.4 biliwn o’r cyfanswm hwn, mewn cynlluniau i “wella effeithlonrwydd a buddsoddi’n drwm mewn moderneiddio ein rhwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Nigel Annette.
‘Helpu cwsmeriaid’
Dywedodd Nigel Annette heddiw fod Dŵr Cymru yn ymwybodol iawn o’r caledi sy’n wynebu cwsmeriaid wrth dalu eu biliau dŵr, a bod y cwmni’n dymuno “helpu cwsmeriaid” mewn sefyllfaoedd ariannol anodd.
“Rydyn ni wedi cyflwyno cyfres o brisiau,” meddai, “er mwyn galluogi pobol mewn amodau arbennig i wneud eu biliau dŵr yn fwy fforddiadwy.
Dywedodd fod y prisiau hyn yn helpu 40,000 o gartrefi ar hyn o bryd.