Mae tri o filwyr Irac wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad yng ngogledd Baghdad, yn ôl swyddogion yn Irac.

Daeth yr ymosodiad oriau’n unig cyn i senedd y wlad ail-ymgynnull ar ôl i wleidyddion Swnni ddod â’u boicot i ben. Roeddan nhw’n protestio yn erbyn erledigaeth swyddogion Swnni.

Mae’r argyfwng gwleidyddol yn y wlad wedi gwaethygu ers i’r Llywodraeth Shiaidd orchymyn bod is-lywydd y Swnniaid yn cael ei arestio ar gyhuddiadau yn ymwneud â therfysgaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod bom wedi ei roi mewn car oedd wedi ei barcio ger safle milwrol yn Baqouba. Fe ffrwydrodd gan ladd tri o filwyr ac anafu tri arall.

Mae Baqouba yn un o gyn-gadarnleoedd al Qaida. Mae al Qaida wedi bod yn targedu lluoedd diogelwch Irac ers i filwyr yr UD adael ym mis Rhagfyr.