Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi dweud ei fod yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ddeddf roi organau yng Nghymru – ond mae ei farn yn mynd yn groes i safbwynt amryw o arweinyddion Cristnogol Cymreig eraill, gan gynnwys Archesgob Cymru, sydd wedi mynegi eu pryder ynglŷn â’r ddeddf arfaethedig.
Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan wedi rhybuddio y gallai cynlluniau i gyflwyno rhagdybiaeth o ganiatâd ar gyfer rhoi organau beryglu hawliau unigolion.
Ond mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchedig W Bryn Williams, ac Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn cefnogi egwyddor caniatâd tybiedig, gan ddadlau y byddai deddfwriaeth sy’n cael ei gweinyddu yn gywir yn fuddiol.
Ymgynghoriad
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth newydd fyddai’n golygu rhagdybiaeth o ganiatâd wrth roi organau. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn cynyddu nifer y rhoddwyr, gan achub mwy o fywydau a rhoi gwell ansawdd bywyd i gleifion.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus y Llywodraeth ar y Papur Gwyn, Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd, yn dod i ben heddiw.
‘Rhwymedigaeth foesol’
“Rydym yn teimlo fod arnom rwymedigaeth foesol i ddefnyddio aelodau ein cyrff er lles ein cyd-ddyn,” meddai’r Parchedig Williams.
“Fodd bynnag, byddai’n rhaid sicrhau amddiffyniadau tynn gan fod llawer o’r pryder ynglŷn â’r newidiadau yn ymwneud â manylion y ddeddfwriaeth. Byddai’n rhaid sicrhau na fydd yn bosibl camweinyddu’r system. Rydym hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd y cynllun yn cael ei gefnogi’n llawn gan ymgyrch gyfathrebu drylwyr.”
Mae Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cyflwyno ei barn ar y mesur arfaethedig fel rhan o’r ymgynghoriad.
‘Cefnogi’
“Mae’r corff dynol yn sanctaidd a thra bo gennym fywyd ac anadl, mae arnom gyfrifoldeb i ofalu am a pharchu ein bywydau a rhai pobl eraill hefyd.
“Mae’r ddyletswydd hon yn bodoli waeth beth fo cyflwr, ansawdd bywyd neu statws y person dan sylw ac mae’r ddyletswydd i ofalu ac amddiffyn yn berthnasol hefyd i sefydliadau cymdeithasol a chymunedol y teulu a’r llywodraeth.
“Gyda’r amddiffyniadau priodol mewn lle, bydd unigolion yng Nghymru yn cael gwybod beth mae’r cynllun yn ei gynnig ac yn cael cyfle i eithrio allan. Dan yr amgylchiadau rheiny, mae rhesymau da iawn dros gefnogi’r cyfle a gyflwynir yn y cynllun i wella cyfleon bywyd pobl fyddai fel arall yn dioddef neu’n marw’n gynnar,” meddai.
Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru tua 28,000 o aelodau mewn 650 o eglwysi, yn ogystal â chysylltiadau ag eglwysi dramor. Ei hamcan yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.