Carwyn Jones
Mae’r bobl a fu farw yn yr Holocost a’r rheini a’i goroesodd yn cael eu cofio mewn gwasanaeth cenedlaethol yng Nghaerdydd heddiw, fydd hefyd yn cofio am hil-laddiadau eraill.

Fe gafodd y gwasanaeth cenedlaethol ei gynnal gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn Neuadd y Ddinas heddiw er mwyn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost yng Nghymru.

Yn ystod yr Holocost mi laddodd y Natsïaid 11 miliwn o bobol gan gynnwys chwe miliwn o Iddewon, sef tua dau o bob tri Iddew yn Ewrop ar y pryd.

“Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae llai a llai o’r rheini a oroesodd yn parhau i fod gyda ni, sy’n ei gwneud yn fwyfwy pwysig cofio’r erchyllterau a all digwydd pan na fyddwn yn mynd ati i herio casineb ac anoddefgarwch,” meddai  Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

“Trwy ddysgu o’r gorffennol, cawn ein hatgoffa i sicrhau nad yw arswyd hil-laddiad yn cael y cyfle i ddigwydd eto” meddai.

Pedwarawd llinynnol a Chôr Ieuenctid Sir Caerdydd a Bro Morgannwg oedd wedi darparu’r gerddoriaeth ar gyfer y gwasanaeth ac roedd myfyriwr o Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath wedi siarad am ei brofiad o ymweld ag Auschwitz.

Yr Erlid

Mae gwasg y Lolfa wedi cyhoeddi cyfrol sy’n talu teyrnged i deulu a ddioddefodd yn sgil polisi hil-laddiad y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a hynny o ganlyniad i’w tras Iddewig.

Yn Yr Erlid gan Heini Gruffudd ceir hanes llofruddiaeth mam Kate Bosse-Griffiths, hunanladdiad ei modryb ac erlid y teulu i bob cwr o’r byd. Ceir straeon o ddioddef ac arwriaeth, caru a chasáu, marwolaeth a goroesiad yn y gyfrol.