Gareth Thomas a Dylan Wyn Rowlands
Ar drothwy ffeinal Celebrity Big Brother heno, mae athro telyn y chwaraewr rygbi  Gareth Thomas wedi ei ddisgrifio fel “ysbrydoliaeth” ac wedi dweud ei fod yn “haeddu ennill” y gystadleuaeth.

Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru ymysg y sêr sy’n brwydro am fuddugoliaeth yn y ffeinal ar Channel 5 heno.

Fe ddaeth y telynor Dylan Wyn Rowlands o Ffestiniog ar draws Gareth Thomas tra’n ffilmio Born To Shine ar ITV fis Medi – rhaglen lle’r oedd enwogion gwahanol yn dysgu canu gwahanol offerynnau.

Ers cyflwyno’r grefft o ganu’r delyn i Gareth Thomas ar y rhaglen, mae Dylan Wyn Rowlands wedi parhau i roi gwersi iddo.

“Ym mis Mehefin, fe ddysgais i delyn iddo a dod i’w ‘nabod yn dda. Roedd o’n cael gwers o dair awr bob yn ail ddydd,” meddai Dylan Wyn Rowlands wrth golwg360.

Y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yw’r ffefryn i ennill cystadleuaeth Celebrity Big Brother eleni ac mae Dylan Wyn Rowlands yn ei gefnogi cant y cant.

“Fo yw’r unig un sydd heb golli ei dymer a chael ffrae fawr efo neb. Mae’n haeddu ennill – mae’n Gymro ac yn delynor.”

“Ffrind annwyl iawn”

Fe gafodd Dylan Wyn Rowlands ei siomi ar yr ochr orau gan ei ddisgybl enwog, sy’n fwy enwog am gario pêl siâp wy yn gyhyrog na mwytho tannau’r delyn.

“Pan roeddwn i’n ei ddysgu o, roeddwn i’n meddwl ella tasa fo’n typical rugby player – ddim really efo diddordeb. Ond, roedd o’n gwrando ac yn ymateb yn dda wrth y delyn,” meddai cyn datgelu bod y ddau wedi cadw mewn cysylltiad ers i’r cyfnod o ffilmio Born To Shine ddod i ben.

“Mae o’n berson mor annwyl, down to earth. Mae o’n berson clên – ac wedi gwneud lot o waith elusen,” meddai Dylan Wyn Rowlands.

Gareth Thomas oedd y Cymro cyntaf i ennill 100 o gapiau dros ei wlad. Mi chwaraeodd y cefnwr yn nhimau Cymru a gipiodd dwy Gamp Lawn yn 2005 a 2008 ac roedd yn un o sêr y Llewod ar sawl taith.

Ond y tu allan i gylchoedd rygbi mae Gareth Thomas yn enwog am fod yn chwaraewr rygbi amlwg wnaeth ddatgelu ei fod yn hoyw, a hynny wedi blynyddoedd o guddio’r ffaith hynny.

Mae ei stori wedi cyffwrdd calonnau ac mae sôn am ffilm yn adrodd hanes ei siwrna, gyda’r actor Hollywood enwog Mickey Rourke yn awyddus i actio rhan y chwaraewr rygbi.

“Pan ddaeth o allan [yn ddyn hoyw] – fe wnaeth o helpu lot o bobl hefyd. Mae’n dda bod ganddo ddim cywilydd o hynny a bod o’n prowd. Mae o’n ysbrydoliaeth,” meddai Dylan Wyn Rowlands, a roddodd anrheg i’w ddisgybl ar ddiwedd Born To Shine.

“Pan  orffennodd y rhaglen, fe wnes i roi telyn fach iddo fel bod o’n gallu cario ymalen i chwarae’r delyn. Roedd o eisiau cario ymlaen,” meddai’r athro gan ddatgelu bod Gareth Thomas eisoes yn medru chwarae ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

“Mae o’n hynod dda rŵan ar y delyn – i feddwl mai crash course gafodd o. Mae’n lyfli bod o’n dal i gadw diddordeb,” meddai gan ychwanegu bod y ddau yn cyfarfod yn Llundain o bryd i’w gilydd ac yn cael cyfle i drafod y delyn.

“Mae’n lyfi fy mod i wedi cael dysgu rhywun fel Gareth Thomas. Roedd o’n ddisgybl da iawn. Roedd o’n dedicated ofnadwy – yn rhoi oriau i mewn i’w ymarfer,” meddai cyn dweud ei fod yn “ffrind annwyl iawn” iddo bellach.

Malan Wilkinson