Ron Davies
Yr iaith Gymraeg yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n atal Plaid Cymru rhag ennill etholiadau yng Nghymru, yn ôl pensaer datganoli ei hun, Ron Davies.

 Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru yn dweud fod yr iaith wedi rhoi sylfaen gadarn i’r Blaid yn ystod ei dyddiau cynnar, ond mai hindrans, nid help, yw’r iaith bellach.

“Mae’r mater ieithyddol wedi bod o fantais fawr i Blaid Cymru dros y blynyddoedd wrth sefydlu ei hun fel pencampwyr y Gymraeg,” meddai Ron Davies, y cyn-AS Llafur sy’ bellach yn Gynghorydd Plaid Cymru

 “Ond yr anfantais yw ei fod wedi dieithrio’r Cymry di-Gymraeg.”

Delwedd y Blaid yn y Cymoedd – iaith iaith iaith

Dywedodd Ron Davies wrth golwg360 heddiw mai’r ddelwedd sydd gan bobol o Blaid Cymru yn y Cymoedd yw bod y Blaid yn canolbwyntio’n benodol ar hyrwyddo’r iaith.

“Mae’n rhaid delio gyda hyn,” meddai, “dyw pobol ddim yn gweld agenda ehangach y Blaid.”

Ychwanegodd fod “amheuaeth wleidyddol” gan bobol y Cymoedd ynglŷn â gwir bwrpas Plaid Cymru.

“Mae agweddau’n dechrau newid, ond mae’r rhaniad yna’n dal i fodoli, a pobol yn dal i gredu mai’r iaith yw diddordeb arbennig y Blaid.”

Yn ôl Ron Davies, a fu’n allweddol yn stori sefydlu’r Cynulliad i Gymru dan Lywodraeth Lafur y 1990au, mae’n rhaid i Blaid Cymru dargedu seddi’r Blaid Lafur os ydyn nhw am dorri trwodd yng nghymoedd diwydiannol y de.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i strategaeth o gymryd seddau oddi wrth Llafur yn eu cadarnleoedd,” meddai.

“Mae pawb sy’n edrych ar ddaearyddiaeth wleidyddol Cymru yn gwybod bod yn rhaid ennill seddi oddi wrth Llafur yn y Cymoedd os yw’r blaid am symud ymlaen.”

Wrth edrych tuag at ras arweinyddiaeth Plaid Cymru, dywedodd Ron Davies mai’r peth pwysicaf i’r arweinydd nesaf fyddai cael “gweledigaeth glir, a syniad clir ar sut i wireddu’r weledigaeth honno”.

 Er bod sawl un wedi dweud mai Leanne Wood fyddai’r arweinydd gorau i helpu’r Blaid i goncro’r Cymoedd,  doedd Ron Davies ddim yn fodlon datgelu pwy fyddai’n cael ei bleidlais ef.