Naz Malik
Wedi i Lywodraeth Cymru atal £3miliwn o grantiau rhag mynd i goffrau Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (AWEMA), mae Aelod Cynulliad Torïaidd wedi dweud angen i’r heddlu ymchwilio i honiadau difrifol am yr elusen.
Daw’r alwad gan Darren Millar wedi i adroddiad annibynnol i AWEMA gynnwys cyhuddiadau o nepotistiaeth a llygredd o fewn y corff.
Yn yr adroddiad mae Naz Malik yn cael ei gyhuddo o ddefnyddio arian AWEMA yn amhriodol i godi ei gyflog a rhoi swydd i’w ferch heb y tryloywder priodol.
Mae eisoes wedi cyfaddef iddo ddefnyddio arian y Gymdeithas i dalu dyled ar ei gerdyn credyd gwerth £9,000, ond mae’n dweud ei fod yn ystyried yr arian yn daliad rhag blaen am gostau yn y dyfodol.
Yn ôl Darren Millar mae rhai o’r cyhuddiadau yn rhai troseddol.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales nad oedd ymchwiliadau yn y gorffennol gan Lywodraeth Cymru, wedi arwain at wella’r sefyllfa o fewn AWEMA.
“Ymddengys hwyrach nad ydy gwersi wedi eu dysgu yn sgîl yr ymchwiliadau hynny,” meddai Darren Millar, gan ychwanegu “nad yw’n rhoi hyder i’r cyhoedd bod yr ymchwiliad diweddara’ hwn yn mynd i arwain at y canlyniadau sydd eu hangen, o bosib.”