Mae un o brif gorau ieuenctid Cymru, ddaeth i’r brig mewn nifer o gystadleuaethau corawl yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a’r Fro y llynedd wedi eu dewis i berfformio yn Disneyland Paris.
Bydd Côr Aelwyd y Waun Ddyfal o Gaerdydd yn un o’r prif atyniadau yn yr arlwy Gymreig a gynigir gan Disneyland Paris yn ystod yr Ŵyl Gymreig sydd i’w chynnal rhwng y 9fed a’r 11eg o Fawrth 2012.
Byddan nhw’n cynnal ymarfer ac yn cynnig cyfle i swyddogion Disney eu clywed yn fyw am y tro cyntaf ddydd Iau, 2il o Chwefror. Hefyd yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd fydd y pump ddaeth i’r brig yn Eisteddfod yr Urdd sydd wedi ennill y cyfle i deithio i Disneyland Paris. Dyma’r drydedd flwyddyn i enillwyr deithio i Disneyland Paris fel rhan o bartneriaeth rhwng Disney Destinations ac Urdd Gobaith Cymru.
Y pump enillydd yw:
- Unawd Blwyddyn 2 ac iau – Tomi Llywelyn o Lanrug, ger Caernarfon
- Unawd Blwyddyn 3 a 4 – Hannah Davies o Bencader, Sir Gaerfyrddin
- Unawd Alaw Werin, Blwyddyn 6 ac iau – Cai Fôn o Langefni, Ynys Môn
- Unawd Merched, Blwyddyn 7 – 9 – Lleucu Gwawr o Lithfaen, Pwllheli
- Unawd o Sioe Gerdd hyd at Flwyddyn 10 ac o dan 19 – Georgina Griggs o’r Bari, Bro Morgannwg