Carwyn Jones
Heddiw fe fydd Prif Weinidog Cymru yn ymuno gyda disgyblion ysgol o Geredigion mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan yr Urdd, Llangrannog i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn 90 oed. 

Mae hwn yn un o 200 o bartïon fydd yn cael eu cynnal ledled y wlad i ddathlu 90 mlynedd o waith mudiad ieuenctid mwyaf Cymru.

“Llongyfarchiadau i Urdd Gobaith Cymru am ei waith dros y 90 mlynedd ddiwethaf yn hybu defnydd o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc trwy weithgareddau a chymdeithasu,”  meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

 “Mae Llywodraeth Cymru yn falch o allu parhau i gynnig cefnogaeth i’r Urdd a gobeithiwn y bydd yn dal ati i gynnig cyfleoedd penigamp i ieuenctid Cymru allu datblygu sgiliau a gwneud ffrindiau parhaol.”