Heno bydd saith o ferched aeth ati i ail sefydlu Carnifal Llangefni yn cael gwybod os mai nhw sydd wedi ennill tlws Prif Ddigwyddiad y Flwyddyn yn noson wobrwyo Twristiaeth Môn 2012.

Roedd eu hymdrechion i ailsefydlu’r carnifal wedi cyfnod hesb yn destun rhaglen ar S4C, sef Genod y Carnifal.

Daeth dros 2,000 o bobol allan i fwynhau Carnifal Llangefni ar Orffennaf 9 y llynedd ac mae’r trefnwyr yn hyderus bydd mwy fyth yn dod eleni.

Roedd y digwyddiad wedi bod ar stop ers 18 mlynedd cyn i Nici Roberts a chwech o’i ffrindiau ei atgyfodi.

“Fi a Llinos best mate fi gafodd y genod eraill on board – mae’n lot o waith  ond gafon ni gyngor gan garnifals eraill a wnaethon ni gysylltu â (chwmni teledu) Cwmni Da ac aeth hi jyst yn nuts o fan’na. Oeddan nhw’n ein dilyn ni i bob man a wnaeth hynny lot o ddaioni,” meddai Nici Roberts.

Mae’r gwaith trefnu meddai yn waith gydol y flwyddyn heblaw am ryw bum wythnos o seibiant dros gyfnod y Nadolig.

Bu’r genod wrthi’n ddygn yn codi £10,000 ar gyfer y carnifal y llynedd “ond ydan ni’n dechrau yn ôl rŵan – gwneud y calendr am y flwyddyn. Mae yna rywbeth ymlaen bob mis – gynnon ni ddau ddigwyddiad y mis nesa’, parti plant Valentines efo disco lle fyddan ni’n dewis Queen newydd ac wedyn mae gynnon ni a noson Siôn a Siân hefyd.”

Rhoi enw da i Fôn

Yn ogystal â’i wneud o am yr hwyl a chael pleser o weld y mwynhad ar wynebau pobol meddai Nici Roberts, sbardun arall iddi hi a’i ffrindiau yw canolbwyntio ar yr hyn sy’n “bositif” yn eu cymuned.

“Mae yna gymaint o bobol yn sôn am y negatives am Langefni a’r ynys – y cyffuriau, dim gwaith, dim hyn na’r llall a’r holl fusnes efo’r Cyngor. Mae pobol yn pwysleisio ar y negatives ond dw i’n meddwl bod eisio pwysleisio ar y pethau positif.”

Mae Nici Roberts a’i ffrindiau eisoes wedi ennill dwy wobr am eu hymdrechion dros y gymuned ond mae hi rhwng dau feddwl os byddan nhw’n cipio’r wobr am brif ddigwyddiad yr ynys.

“Mae hyn yn major ond mae gynnon ni siawns mae’n siŵr. Ond mae sioe Môn yn mynd am dros 100 mlynedd ac yn dod a 60,000 o bobol.”

Dywedodd Beca Brown, cynhyrchydd y rhaglen Genod y Carnifal a ddarlledwyd ar S4C y llynedd bod “egni ac ymroddiad” Nici Roberts a’i ffrindiau “yn anhygoel.”

Roedd Beca Brown o’r farn eu bod wedi “gwneud rhywbeth gwirioneddol gwerth chweil dros eu cymuned leol, ac maen nhw’n haeddu pob clod am eu gwaith caled. Pob lwc iddyn nhw efo’r wobr yma, a gobeithio bydd Carnifal eleni yr un mor llwyddiannus ag un llynedd.”

Siân Williams