Irene Lawless
Mae Heddlu Dyfed- Powys wedi cadarnhau bod dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio Irene Lawless ym mhentref Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r heddlu wedi cyhuddo Darren Martin Jackson, 26 oed, o ladd Irene Lawless, 67.
Cafodd ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Llanllwni ddechrau’r wythnos hon.
Mae Pam Kelly o’r Heddlu wedi diolch i gymuned fechan Llanllwni am eu cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad.
Fe fydd Darren Martin Jackson o Gaint yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli heddiw.