Alun Michael - 'anodd coelio'
Mae cyn-weinidog yn y Swyddfa Gartref yn dweud ei bod hi’n “anodd coelio” bod dogfennau coll a arweiniodd at ollwng achos gwerth £30 miliwn wedi cael eu darganfod.

Ac fe ddywedodd bod rhaid ystyried ailddechrau’r achos – y mwya’ o’i fath erioed yn ymwneud â honiadau o lygredd yn erbyn yr heddlu.

Yn ôl Alun Michael, mae’r cadarnhad heddiw fod dod o hyd i’r dogfennau oedd yn ganolog i’r achos enfawr yn ymwneud â llygredd yn yr heddlu yn codi cwestiynau mawr.

“Mae’n anodd coelio y gallai rhywbeth fel hyn fod wedi digwydd mewn achos mor bwysig,” meddai wrth Golwg 360 ar ôl i Gomisiwn Cwynion yr Heddlu gadarnhau eu bod wedi dod o hyd i’r dogfennau coll.

Beio biwrocratiaeth

Ar 1 Rhagfyr 2011, fe chwalodd yr achos yn erbyn wyth swyddog heddlu oedd wedi eu cyhuddo o “greu tystiolaeth” tros lofruddiaeth y ferch 20 oed Lynette White yn ôl yn 1988.

Un o’r prif resymau oedd fod dogfennau allweddol ar goll – ond maen nhw wedi eu darganfod lai na deufis wedyn.

Roedd Alun Michael sydd hefyd yn Aelod Seneddol tros ardal y llofruddiaeth yn Ne Caerdydd yn rhoi’r bai ar fiwrocratiaeth ond yn cytuno bod cwestiynau mawr yn codi o’r holl achos, o gofio bod tri dyn wedi eu carcharu ar gam oherwydd tystiolaeth yr heddlu.

Roedd yn dweud na ddylai’r achos fod wedi ei ollwng yn y lle cynta’.

Meddai Alun Michael

“Roedd hyn yn effeithio nid yn unig ar y rhai oedd o flaen y llys, ond y rhai oedd wedi mynd i’r carchar, ac mae’n bwysig iawn o ran tynnu llinell o dan beth oedd yn digwydd yn yr heddlu ar y pryd.

“Mae Heddlu De Cymru wedi gwella dros yr 20 mlynedd diwethaf yn bendant,” meddai, “ond dydyn nhw dal ddim yn berffaith.”