Lynette White
Mae dogfennau coll a arweiniodd at fethiant un o’r achosion llys mwyaf erioed i mewn i lygredd yn yr heddlu yng ngwledydd Prydain wedi cael eu darganfod mewn bocs.
Ar 1 Rhagfyr 2011, fe ollyngwyd achos gwerth £30 miliwn yn erbyn wyth cyn-swyddog heddlu oedd yn wynebu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder tros achos llofruddiaeth Lynette White o Gaerdydd yn 1988.
Dywedodd y barnwr ar y pryd na allai’r wyth gael gwrandawiad teg gan fod dogfennau allweddol ar goll.
Heddiw, mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod o hyd i’r dogfennau hynny ym meddiant Heddlu De Cymru.
“Mae Comisiwn Cwynion Annibynol yr Heddlu nawr wedi cadarnhau fod y dogfennau yn ymwneud ag achos Lynette White – y clywodd Llys y Goron Abertawe ar 1 Rhagfyr 2011 eu bod wedi eu dinistrio – wedi cael eu darganfod ac nad oedden nhw wedi cael eu dinistrio.”
Y cefndir
Gollyngwyd yr achos yn erbyn yr wyth swyddog heddlu yn ôl ym mis Rhagfyr 2011, wedi i’r barnwr ddatgan fod y dogfennau coll yn tanseilio hyder yr amddiffyniad yn y broses o ddatgelu pob gwyboaeth yn ymwneud â’r achos.
Roedd yr wyth wedi eu cyhuddo o “greu tystiolaeth” yn erbyn pump o ddynion, ar ôl y llofruddiaeth yn ardal y dociau yng Nghaerdydd – gan arwain at garcharu tri o’r dynion am oes.
Cafodd y tri eu rhyddhau yn ddiweddarach, yn dilyn apêl a chyfaddefodd dyn arall mai ef oedd yn gyfrifol.
Cadarnhau
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Cwynion yr Heddlu wrth Golwg 360 heddiw eu bod nhw wedi dod o hyd i’r ddau becyn o ddogfennau o fewn yr wythnos ddiwethaf, a’u bod nhw bellach wedi cadarnhau mai’r rheiny oedd y dogfennau coll.
Dechreuwydd yr ymchwiliad gan y Comisiwn yn sgil methiant yr achos yn erbyn yr wyth swyddog heddlu, i edrych yn benodol ar y modd y deliwyd gyda’r dogfennau allweddol hyn.
Ynghynt heddiw, roedd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus hefyd wedi dechrau ymchwiliad.