Ffatrioedd ym Mlaenau'r Cymoedd
Mae un o’r undebau mwya’n honni bod Cymru wedi colli 10,000 o swyddi cynhyrchu bob blwydddyn ers dechrau’r dirwasgiad economaidd.
Honiad undeb y GMB yw fod 40,300 o swyddi diwydiannol wedi mynd mewn pedair blynedd ers 2007, bron cymaint ag oedd wedi eu colli mewn 12 mlynedd cyn hynny.
Mae hynny’n gosod Cymru yn nawfed o blith 12 rhanbarth economaidd gwledydd Prydain – Gorllewin y Midlands yn Lloegr oedd wedi colli fwya’.
Trwy wledydd Prydain, mae’r undeb yn dweud 700,000 yn llai o swyddi cynhyrchu’n awr nag oedd ar ddechrau’r dirwasgiad economaidd.
‘Dwy filiwn mewn llai na dau ddegawd’
Mae hynny’n golygu colli tua 3,400 o swyddi diwydiannol bob wythnos – ers 1994-5, mae’r GMB yn dweud bod 2 filiwn o swyddi o’r fath wedi mynd yn y Deyrnas Unedig i gyd.
“Colled y gwneuthurwyr ydi stori economaidd fwya’ trasig Prydain yn ystod y ddau ddegawd diwetha’,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y GMB, Paul Kenny.
“Os na fydd gweithredu i gefnogi a datblygu gweithgynhyrchu, mae dyfodol economaidd y genedl hon yn llwm. Dim ond y wladwriaeth Brydeinig sydd â digon o rym i atal a gwrthrdroi’r dirywiad.”