Mae cantores a oedd yn un o gystadleuwyr Llais i Gymru wedi ymateb i feirniadaeth gyhoeddus o’r rhaglen ac wedi gofyn, “Pam penderfynu dangos y Saesneg?” pan roedd wedi canu cân Gymraeg ar y rhaglen hefyd.
Mae’r gyfres ar S4C, lle mae cwmni recordio Decca yn chwilio am gantorion o Gymru i gynnig cytundeb recordio iddyn nhw, wedi’i beirniadu gan gyfranwyr ar Twitter a Golwg360.
Mae Casi Wyn o Wynedd sy’n fyfyrwraig yn Llundain yn dadlau nad oes dim o’i le â chysyniad y rhaglen gan gwmni Boomerang ond mae’n credu bod gormod o Saesneg ar y rhaglen.
Er iddi hi ganu alaw werin Gymraeg, penderfynodd S4C ddangos y darn ohoni’n canu cân Saesneg.
“Pam penderfynu dangos y Saesneg?”meddai. “I raddau, mae wedi cambortreadu sawl person ifanc o ganlyniad i benderfyniad S4C.”
Eisoes, wrth ymateb i gwynion bod gormod o Saesneg ar y rhaglen, fe ddywedodd S4C mewn datganiad i Golwg360: “Er mwyn rhoi cyfle i dalent o Gymru i ehangu’u gorwelion mae’n fantais cael cwmni mawr rhyngwladol yn rhan o’r broses.”
Meddai S4C wrth gylchgrawn Golwg: “Am resymau golygyddol, fe benderfynwyd dangos Casi Wyn yn perfformio rhan o gân Saesneg am ei bod hi’n gân yr oedd hi wedi ei chyfansoddi ei hunan. Wrth chwilio am Lais i Gymru, mae gan gwmni Decca ddiddordeb arbennig mewn perfformwyr sy’n cyfansoddi deunydd gwreiddiol a dyna pam y darlledwyd y perfformiad hwn.”
Wythnos diwethaf, fe ddywedod Dafydd Iwan wrth Golwg360 fod y gyfres yn rhoi’r argraff bod eisiau i gantorion Cymraeg fynd dros Glawdd Offa os ydyn nhw am lwyddo.
‘Trist iawn’
Ond yn ôl Casi Wyn mae pobol yn rhy barod i feirniadu Cymry ifanc sy’n troi eu golygon at Loegr.
“Mae’n drist iawn nad yw’r to hŷn yn ein hannog i fentro a gwthio’r ffiniau,” meddai’r fyfyrwraig Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mhrifysgol Llundain, Goldsmiths.
“Beth maen nhw’n ei wneud yw condemnio awydd rhai ohonon ni i fynd allan i ddysgu mwy, i brofi pethau gwahanol.”
Mae’n dweud ei bod yn cael y profiadau o ganu “set ddwyieithog” mewn tafarndai a chlybiau yn Llundain.
“Beth ydi hynny’n union? Ydi hynny’n ddiegwyddor hefyd? Nac ydi, mae hynny’n hyrwyddo’n niwylliant, fy iaith i yn Llundain! Does yna byth ganmol pobol ifanc. Y neges wastad ydi ‘arhoswch yma, defnyddiwch y cyfleusterau sydd gennych chi’. Dw i’n dal i ganu yn Gymraeg yn Llundain, achos mi fuasai’n annaturiol i mi beidio, yn amlwg.”
Darllenwch y stori ynghyd ag ymateb S4C yn llawn yn Golwg wythnos hon