Huw Edwards
Bydd y darlledwr a’r newyddiadurwr Huw Edwards yn edrych yn ôl ar 30,000 mlynedd o hanes y Cymry mewn cyfres newydd ar gyfer BBC Cymru.
Bydd The Story of Wales yn olrhain hanes y Cymry o’r angladd gyntaf ar gof a chadw yng ngorllewin Ewrop, bron i 30,000 o flynyddoedd yn ol, i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd heddiw.
Gan ddechrau ar 27 Chwefror, bydd Huw Edwards yn tywys gwylwyr BBC 1 drwy rai o gyfnodau pwysicaf hanes Cymru, gan gynnwys cyfnod Hywel Dda yn uno Cymru dan un gyfraith, i’r Cymry wrth galon llys y Tuduriaid, i uchafbwynt y diwydiant haearn yn y de, cyn dychwelyd i drafod datganoli yng Nghymru heddiw.
Yn ôl Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Cymru, mae’r gyfres yn gyfle i “hybu diddordeb yn ymwneud â’n diwylliant a threftadaeth cyfoethog.
“Rwy’n siwr bydd y gyfres yn annog pobol i ymweld â rhai o’r lleoliadau ynddi ac ymchwilio i hanes a diwylliant y llefydd hynny.”
I gyd-fynd â’r gyfres, fe fydd BBC 2 Wales yn darlledu rhaglenni yn edrych ar hanes pedair tref a dinas yng Nghymru.
Bydd hanes Bangor, Aberteifi, Casnewydd a Phontypridd yn cael ei ddarganfod a’i drafod mewn cyfres o raglenni yn dechrau ar 6 Chwefror.
Bydd BBC Radio Wales hefyd yn cymryd rhan yn yr ymchwil hanesyddol, gan ddechrau cyfres o’r enw Histories of Wales o 19 Chwefror ymlaen, gan drafod dylanwad ffactorau fel radicaliaeth, mudo, y teulu a’r rhyfel ar Gymru. Bydd y gyfres yn mynd i lygad y ffynnon a chael tystiolaeth rhai fu yno ar y pryd, gan gynnwys y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan.
Bydd Radio Cymru hefyd yn darlledu cyfres yn edrych yn ôl dros hanes cronolegol cenedl y Cymry, o’r enw Hanes yn y Fantol.