Bangor
Fe fydd siop recordiau Cob ym Mangor yn cau ei drysau i’r cyhoedd fis Mawrth eleni, meddai perchennog y siop wrth Golwg360.

Yn ol Owen Hughes, y perchennog mae “nifer o resymau” dros gau’r siop recordiau fyddai’n dathlu 33 mlynedd ers ei sefydlu eleni. “Mae’r diwydiant wedi newid yn ystod y 5-10 mlynedd ddiwethaf,” meddai.

“Mae wedi newid yn sylweddol yn y pum mlynedd diwethaf. ‘Dw i’n ama bod o’n rhywbeth i’w wneud â mwy o bobl gyda Broadband. Mae’n haws i lawrlwytho gyda Broadband a’i gael o am ddim”.

Rheswm arall dros gau’r siop  yw’r ffaith bod y les yn dod i ben, meddai.

“Os ydi rhywun yn edrych ar Fangor yn gyffredinol, mae’r ddinas wedi newid. Does dim hanner gymaint yn dod i Fangor ag oedd ‘na flynyddoedd yn ol. Mae pethau fel Tesco Extra yn golygu bod pobl yn gallu cael pethau heb ddod i mewn i Fangor. Maen nhw hefyd yn gallu cael pethau arlein, yn gerddoriaeth, dillad a llyfrau.”

Dywedodd hefyd nad oedd agoriad siop gerddoriaeth HMV yn y ddinas “wedi helpu” sefyllfa Cob.

‘Braint’

“Mewn ffordd, gwneud y penderfyniad oedd y rhan anodd,” meddai Owen Hughes. “Mae wedi bod yn gyfnod gwych. Alla’ i ddim meddwl am wneud dim byd gwell. Mae wedi bod yn fraint cael gwneud be dw i’n garu wneud,” meddai.

Ond, mae’r perchennog yn cyfaddef ei fod yn “drist gweld pethe’n dirywio yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.”

“Pan agorodd Cob yn ’79 – roedd deng mil a hanner o siopau recordiau annibynnol ym Mhrydain. Erbyn hyn, mae llai ‘na 200. Pan ti’n edrych arni fel ‘na, rydan ni wedi gwneud yn dda yn gwerthu stwff newydd, ail law ac yn stocio pethau sydd ddim yn y siartiau.

“Mae’n golled i Fangor ar sawl lefel. Mae’n un o’r ‘chydig siopau annibynnol sydd ar ol. Roedd  cwsmeriaid yn dal i ddod. Dw i’n teimlo’n euog nawr – i le fyddan nhw’n mynd?”

Dywedodd eu bod yn ystyried trefnu digwyddiad o ddathliad ffarwel ar y diwrnod olaf. Ond does dim manylion am y digwyddiad ar hyn o bryd.

Ni fydd siop recordiau Cob ym Mhorthmadog yn cau, meddai gan egluro fod perchennog arall i’r siop.

Agorodd Cob Bangor ei drysau i’r cyhoedd fis Rhagfyr ’79. Mae disgwyl i’r siop gau ei drysau 24 Mawrth 2012.