Dilys Elwyn-Edwards (llun cyhoeddusrwydd o wefan Cyhoeddiadau Gwynn)
Roedd y gyfansoddwraig Dilys Elwyn-Edwards wedi gwneud “cyfraniad arbennig” i gerddoriaeth Cymru, meddai un o gantorion enwoca’r wlad.
Roedd y tenor Gwyn Hughes Jones yn talu teyrnged i’r cerddor a fu farw ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ yn 93 oed.
Roedd hi wedi cynnal arddull delynegol caneuon Cymraeg i mewn i ail hanner yr ugeinfed ganrif, meddai.
“Fel cyfansoddwraig, roedd ei chyfraniad hi i’n diwylliant lleisiol ni’n anferthol. Roedd hi’n sgrifennu’n delynegol, sy’n ofnadwy o bwysig yn y traddodiad Cymraeg.
“Fedrai ei chaneuon ddim bod yn ddim byd ond Cymreig. Roedd ei chaneuon hi’n ymddangos yn syml ond, yn dechnegol, roedden nhw’n anodd ac yn gofyn lot o’r cantorion.”
Brwdfrydig
Ei gallu hi i briodi barddoniaeth fawr gydag alawon telynegol, syml oedd ei chyfrinach, meddai Gwyn Hughes Jones – roedd hynny’n rhoi didwylledd yn ei chaneuon a hynny’n apelio at gynulleidfaoedd a pherfformwyr fel ei gilydd.
Yn bersonol, meddai, roedd hi’n wraig hynaws a brwdfrydig, yn llawn anogaeth a syniadau ac yn gweld posibiliadau.
“Roedd hi’r math o gerddor yr oeddwn i wrth fy modd yn gweithio efo hi. Mae’r brwdfrydedd yna’n ofnadwy o bwysig i rywun sy’n creu.”
Ei gyrfa
Roedd y gyfansoddwraig wedi ei geni yn Nolgellau a gwrthododd ysgoloriaeth brin i fynd i Gaergrawnt er mwyn astudio ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd.
Fe fu’n ddarlithydd ac athrawes gerddoriaeth, gan ddiweddu ei bywyd yng Nghaernarfon, lle’r oedd ei gŵr, Elwyn, yn weinidog ar gapel Saesneg.
Caneuon y Tri Aderyn yw ei chyfansoddiadau enwoca’, sy’n cynnwys fersiwn o gerdd R. Williams Parry, Mae Hiraeth yn y Môr – yn ôl Gwyn Hughes Jones, roedd honno’n enghraifft berffaith o gân oedd yn ymddangos yn syml ond yn dechnegol anodd.
“Sawl tro, roedd hi wedi dweud y byddai hi’n sgwennu rhywbeth yn arbennig i fi,” meddai. “Yn anffodus i fi, wnaeth hi ddim ond mae’r hyn y mae wedi ei adael i ni yn arbennig.”