Mae trefnwyr Hanner Cant – gŵyl gerddorol enfawr gaiff ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 13 a 14 Gorffennaf wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o docynnau yn mynd ar werth am bris gostyngol dydd Gwener.

Cynhelir y gig fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50 oed, a bydd 50 o artistiaid cerddorol Cymraeg yn perfformio dros y deuddydd.

Cyhoeddwyd mai Gruff Rhys oedd y perfformiwr cyntaf nôl ym mis Awst, ac ers hynny mae’r trefnwyr wedi bod yn cyhoeddi un enw pob wythnos – Meic Stevens yw rhif 25 a gyhoeddwyd neithiwr.

Yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru neithiwr, fe gyhoeddodd un o’r trefnwyr, Huw Lewis bod tocynnau cyntaf yr ŵyl yn mynd ar werth ddiwedd yr wythnos.

“Bydd modd rhag-archebu tocynnau i’r ŵyl o Fawrth 1af ymlaen am £25 yr un – pris hynod o resymol – o’n gwefan hannercant.com

“Ond, fel cynnig arbennig ac fel ymateb i’r diddordeb eithriadol yn y digwyddiad, byddwn yn rhyddhau nifer cyfyngedig o docynnau – 250 ohonynt, ddydd Gwener yma [20 Ionawr] am hanner dydd. Bydd modd prynu’r rhain am bris arbennig o £20.”

‘Y gig mwyaf ers sawl blwyddyn’

Yn ystod y rhaglen neithiwr, fe ddisgrifiodd Lisa Gwilym y gig fel “y gig mwyaf ers sawl blwyddyn” ac mae pobl eisoes yn cymharu’r Digwyddiad gyda ‘Rhyw Ddydd, Un Dydd’ a gynhaliwyd gan y Gymdeithas yn yr un lleoliad yn Rhagfyr 1991.

Er bod y Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid yn dal dros 1500 o bobl, mae disgwyl galw mawr am docynnau ar gyfer y digwyddiad.

Yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg mae cyfweliad gyda Dyl Mei ynglŷn â’i brosiect Y Lladron, a’r bwriad i wneud set arbennig yn y gig Hanner Cant gyda chân o bob blwyddyn o’r 50 mlynedd diwethaf.