Stanley Kubrick
Mae Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill  grant o £76,000  i ymchwilio i waith Stanley Kubrick.

Fe fydd Dr Nathan Abrams yn edrych ar waith y gwneuthurwr ffilm chwedlonol o safbwynt ei etifeddiaeth Iddewig a’i gefndir deallusol. Cafodd y grant ei roi gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Mae gwaith Stanley Kubrick  yn cwmpasu llawer o wahanol fathau o ffilm a phynciau, gyda sawl ffilm yn torri tir newydd o ran arddull sinematig.
“Er gwaethaf yr holl ymchwil sydd wedi’i gwneud ar Kubrick – ac mae mwy mae’n debyg wedi’i ysgrifennu am  Kubrick nag unrhyw gyfarwyddwr arall, ac eithrio Alfred Hitchcock – eto’i gyd, ychydig iawn sy’n seiliedig ar ymchwil wreiddiol i’w archifau ei hun.  Nid  yw ei statws deallusol a’i ethnigrwydd wedi’u hystyried i unrhyw raddau helaeth chwaith,” meddai Dr Nathan Abrams.

Mae Dr Abrams yn gobeithio cynnig gogwydd newydd  er mwyn dehongli ffilmiau Stanley Kubrick.
“Rwy’n gobeithio unioni hyn drwy seilio fy ymchwil ar ddeunydd archifol helaeth. Byddaf hefyd yn rhoi ystyriaeth lawn i’r gymuned ddiwylliannol ddeallusol yn Efrog Newydd  yr oedd Kubrick yn aelod ohoni, ac effaith cefndir ei ddiwylliant Iddewig ar ei waith. ”
Er nad oedd Kubrick yn ymarfer ei grefydd Iddewig ac nad yw cyfeiriadau na safbwynt Iddewig yn eglur neu’n amlwg yn ei ffilmiau, mae Nathan Abrams yn dadlau  unwaith y byddwch yn ystyried ei ffilmiau o safbwynt ei ethnigrwydd, a’i amgylchfyd diwylliannol, yna mae rhai themâu cryf yn dod i’r amlwg.

Er enghraifft, mae Abrams yn dehongli ei gyfraniad i genre y ffilm arswyd, yn ei ffilm, The Shining, 1980, fel un sy’n delio â’r thema Iddewig iawn o’r tad yn aberthu ei fab. Mae hwn yn ddehongliad newydd o ffilm sydd wedi  cael ei gwylio a’i thrafod yn ddiddiwedd.
“Ychydig o ddatganiadau  cyhoeddus a wnaeth am ei ffilmiau. Treuliodd amser maith yn gweithio ar ei ffilmiau. Roedd yn rhoi sylw obsesiynol iddynt  gan ymwneud llawer â manylion. Roedd yn hynod ddiwylliedig ac yn sicr roedd ganddo farn i’w mynegi. Eto, rwy’n  tybio ei fod wedi chwilio am y ffyrdd lleiaf amlwg o gyfleu ei negeseuon i’r gwyliwr; roedd o’n awyddus i’r gwyliwr weithio’n galed i ddeall ystyr ddyfnach ei negeseuon,” meddai Dr Abrams.

Mae Abrams hefyd yn gobeithio dadlau bod ffilmiau Kubrick yn cynnig lens  i ni weld digwyddiadau mawr yr 20fed ganrif drwyddi: y ddau ryfel byd, yr Holocost, cyfnod McCarthy yn America a’r Rhyfel Oer, y ras arfau a’r ras ofod a Rhyfel Fietnam, yn ogystal â datblygiad cymdeithas yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn y cyfnod 1951-1999.
Meddai Dr Abrams, “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y grant yma.  Bydd yn rhoi naw mis i mi dreiddio’n wirioneddol  i waith y gwneuthurwr ffilmiau enigmatig a rhwystredig o eliptig yma. Gan fod grant Cymrodoriaeth AHRC yn hynod gystadleuol, mae’n tystio i bwysigrwydd yr ymchwil i Astudiaethau Ffilm ac Astudiaethau Iddewig rydym yn ei wneud yma ym Mangor. “