Mae adroddiadau bod cwmni Peacocks, y gadwyn siopau dillad, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn wynebu cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae debyg mai methiant trafodaethau diweddar rhwng y cyfranddalwyr a’r benthycwyr sydd wedi arwain at broblemau Peacocks.

Golyga hyn fod dyfodol 550 o siopau Peacocks drwy Brydain yn y fantol.

Mae’r gadwyn siopau wedi bod yn llwyddiannus yn ddiweddar, gyda chynnydd o 17% yn eu gwerthiant dros gyfnod y Nadolig, ond yn mae gan y cwmni ddyledion sylweddol.

Yn ôl adroddiadau, roedd gan y cwmni ddyledion o £647 miliwn mewn benthyciadau i fanciau gan gynnwys Barclays a’r Royal Bank of Scotland ddiwedd mis Ebrill y llynedd.